Tyumen

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tyumen
Remove ads

Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Tyumen (Rwseg: Тюмень; IPA: [tʲʉˈmʲenʲ]) sy'n ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Oblast Tyumen, Dosbarth Ffederal Ural, ac a leolir ar lan Afon Tura 2,500 cilometer (1,600 milltir) i'r dwyrain o Foscfa. Yn ôl cyfrifiad Rwsia 2010 mae 581,907 o bobl yn byw yn y ddinas.[1]

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Mynachlog y Drindod, Tyumen

Tyumen oedd yr aneddiad Rwsiaidd cyntaf yn Siberia. Fe'i sefydlwyd yn 1586 fel canolfan i hyrwyddo ymlediad Rwsia i'r dwyrain ac mae'n aros yn un o'r canolfannau diwydiannol ac economaidd pwysicaf i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Wral. Saif ar groesffordd sawl llwybr masnach mawr gyda mynediad i afonydd gall llongau eu defnyddio, ffaith a arweiniodd at dwf cyflym Tyumen o aneddiad milwrol bychan i fod yn ddinas fasnachol fawr. Yng nghanol Hen Tyumen ceir sawl adeilad hanesyddol sy'n adlewyrchu hanes hir y ddinas.

Heddiw mae Tyumen yn ganolfan busnes o bwys. Tyumen yw canolfan cludiant a diwydiant Oblast Tyumen, ardal gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac sy'n ymestyn o'r ffin rhwng Rwsia a Casachstan i Gefnfor yr Arctig.

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads