Umar

From Wikipedia, the free encyclopedia

Umar
Remove ads

Umar, yn llawn Omar ibn al-Chattab (Arabeg: عمر بن الخطاب ), hefyd Omar (ca. 5843 Tachwedd 644) oedd Califf yr ymerodraeth Arabaidd o 634 hyd 644. Ef oedd yr ail o'r pedwar califf a elwir y Rashidun, ac roedd yn un o sahaba (cymdeithion) y proffwyd Muhammad.

Thumb
Ymerodraeth y Califf Umar
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Ganed ef yn Mecca. Ar y cyntaf, roedd yn gwrthwynebu Muhammad, ond yn ôl traddodiad, cafodd droedigaeth at Islam yn 616. Olynodd Abu Bakr fel Califf yn 634. Yn ystod ei deyrnasiad fel Califf, ymestynnwyd yr ymerodraeth yn fawr, trwy feddiannu Palesteina yn 637, Irac (636), Syria (636) a'r Aifft(639-642). Enillodd fuddugoliaethau dros y Sassaniaid hefyd, er mai dim ond dan ei olynydd y meddiannwyd Ymerodraeth Persia yn derfynol. Yn 644, llofruddiwyd ef gan gaethwas Cristnogol, Abu Lu'lu. Olynwyd ef gan Uthman ibn Affan.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads