Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

From Wikipedia, the free encyclopedia

Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
Remove ads

Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma.

Thumb
Seren Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Urdd marchogion Brydeinig ydy Urdd Dra Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg: The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar 4 Mehefin 1917 gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r urdd yn cynnwys pum dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:

  • Marchog (neu Fonesig) y Groes Fawr (Saesneg: Knight (or Dame) of the Grand Cross (GBE)
  • Marchog (neu Fonesig) Cadlywydd (Saesneg: Knight (or Dame) Commander (KBE neu DBE)
  • Cadlywydd (Saesneg: Commander) (CBE)
  • Swyddog (Saesneg: Officer) (OBE)
  • Aelod (Saesneg: Member) (MBE).

Dim ond y ddau ddosbarth uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchogion, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y mae Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig yn bennaeth y wladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yw derbynwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r urdd, ond mae perthynas gyda'r urdd. Ni wobrwyir y fedal hon bellach yn y Deyrnas Unedig na'i gwledydd dibynadwy, ond mae'r Ynysoedd Cook a rhai Gwledydd y Gymanwlad yn dal i'w gwobrwyo.

Arwyddair yr urdd yw I Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r urdd leiaf pwysig Brydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw urdd arall.

Remove ads

Hanes

Sefydlodd Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig yr urdd i lenwi gwagle yng gyfundrefn anrhydeddau'r Deyrnas Unedig: The Most Honourable Order of the Bath a wobrwywyd i swyddogion uwch filwrol yn unig a gweinyddion dinasol; The Most Distinguished Order of St Michael and St George a anrhydeddodd llysgenaid; a Threfn Frenhinol Fictoraidd a anrhydeddodd pobl a oedd wedi gweinyddu'r Teulu Brenhinol yn bersonol. Bwriad pennaf y brenin oedd anrhydeddu'r miloedd o bobl a weinyddodd o fewn sawl ffurf answyddogol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un dosbarth oedd gan yr urdd yn wreiddiol, ond yn 1918, yn fuan wedi ei sefydliad, rhannwyd hi'n swyddogol i raniadau Milwrol a Dinesig.

Mae trefn y Marchogion yn fwy gweriniaethol na threfnau anghynhwysol Bath neu San Michael a San Siôr, ac yn ei dyddiau cynnar, ni ddaliwyd hi mewn cyfrifiaeth uchel. Newidiodd hyn dros y blynyddoedd.

Remove ads

Cyfansoddiad

Pen-arglwydd yr urdd yw brenin (neu frenhines) y Deyrnas Unedig, sy'n rheoli pob aelod arall yr urdd (yn arferol, ar gyngor y llywodraeth).

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwisgoedd ac offer

Thumb
Bathodyn Aelodau Trefn yr Ymerodraeth Brydeinig, blaen a chefn
Rhuban Dosbarth Dinesig yr urdd
Rhuban Dosbarth Milwrol yr urdd
Thumb
Gwisgai swyddogion benywaidd yr urdd eu symbolau ar fwa, fel dengys yn y llun hwn

Mae aelodau'r urdd yn gwisgo gwisgoedd llafurfawr ar ddigwyddiadau arbennig (megis gwasanaethau quadrennial a choroni), sy'n newid o ran dosbarth (gwnaethpwyd newidiadau mawr i ddyluniad y gwisgoedd yn 1937)    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Capel

Capel yr urdd yw crypt dwyreiniol Prifeglwys San Paul, ond deilir y gwasanaethau mawr ym mhrif gorff y brifeglwys. (Mae'r brifeglwys hefyd yn gartref i gapel Trefn San Michael a St Siôr.) Deilir gwasanaethau crefyddol yr urdd pob pedair blynedd, yn y gwasanaethau hyn gweinyddir Marchogion a Boneddigesau newydd, neilltuwyd y capel yn 1960.

Blaenoriaeth a Breintiau

Thumb
Gall Marchog neu Fonesig ddangos cylch yr urdd ar eu arfbais.

Gwobrwyir aelodau'r urdd safle yn y drefn blaenoriaeth. Mae gwragedd dynion yr urdd hefyd yn ymddangos yn y flaenoriaeth, yn ogystal â meibion, merched a merched-yng-nghyfraith Marchog y Groes Fawr a Marchog Cadlywydd; ni ddengys perthnasau merched yr urdd unrhyw flaenoriaeth arbennig. Gall perthnasau ennill blaenoriaeth, fel rheol gyffredin, gan eu tadau a'u gwyr, ond nid gan eu mamau a'u gwragedd.

Remove ads

Diddymiadau

Prif: Rhestr diddymiadau o wobrwyaethau Urddau'r Ymerodraeth Brydeinig
  • 1921: Cymerwyd anrhydedd OBE Cecil Malone oddiarno (gwobrwywyd 1919), yn dilyn ei gyhuddiaeth yn ôl Deddf Amddifyniaeth y Deyrnad (Caffaeliad Tir) 1920 ''The London Gazette''.[1]
  • 1940: Cymerwyd anrhydedd CBE Vidkun Quisling oddiarno (gwobrwywyd 1929), yn dilyn ei gydweithrediad â'r Yr Almaen Naziaidd yn eu meddiant o Norwy.
  • 1949: Cymerwyd anrhydedd OBE Man Wai Wong oddiarno (gwobrwywyd 1947), yn dilyn ei gyhuddiaeth am ymddygiad anghyfreithlon ym Malaya.[2]
  • 1965: Cymerwyd anrhydedd OBE Kim Philby oddiarno (gwobrwywyd 1946), yn dilyn ei amlygiad fel asiant ddwbl.[3]
  • 1975: Cymerwyd anrhydedd MBE William Spens oddiarno (gwobrwywyd 1954), yn dilyn ei gyhuddiaeth am ddwyn.[4]
  • 1980: Cymerwyd anrhydedd KBE Albert Henry oddiarno (gwobrwywyd 1974), yn dilyn ei gyhuddiaeth o dwyll etholaethol.[5]
  • 1988: Cymerwyd anrhydedd OBE Lester Piggott oddiarno (gwobrwywyd yn 1975), yn dilyn ei gyhuddiaeth o dwyll treth tax fraud.[6]
  • 2006: Cymerwyd anrhydedd MBE Michael Eke oddiarno (gwobrwywyd yn 2003) yn dilyn ei gyhuddiaeth am ddwyn a thwyllo.[7]
  • 2006: Cymerwyd anrhydedd MBE Naseem Hamed oddiarno (gwobrwywyd yn 1999) yn dilyn ei gyhuddiaeth o yrru'n beryglus.[8]
Remove ads

Beirniadaeth

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Beirniadodd John Lennon naws milwrol yr urdd yn hallt gan ddweud:

Saesneg: "Lots of people who complained about us receiving the MBE received theirs for heroism in the war - for killing people. We received ours for entertaining other people. I'd say we deserve ours more."

Mae nifer o bobl wedi cael cynnig ond wedi gwrthod anrhydeddau'r Frenhines dros y blynyddoedd. Mae'n wybyddus fod rhai Cymry wedi gwrthod, yn cynnwys Carwyn James, Hywel Gwynfryn, Beti George[9], Grace Williams, T. E. Lawrence, Augustus John, E. Tegla Davies, James Griffiths a Roald Dahl.[10]

Derbyniodd yr actor Michael Sheen OBE yn 2009 ond fe'i ddychwelodd yn 2017.[11]

Remove ads

Nodiadau

Ffynonellau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads