Valenciennes
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned yn département Nord yng ngogledd Ffrainc yw Valenciennes (Hen Isalmaeneg: Valencijn, Lladin: Valentianae). Saif ar Afon Scheldt. Roedd poblogaeth y commune yn 41,278 yn 1999.
Ceir y cyfeiriad cyntaf at Valenciennes mewn dogfen o 693, wedi ei hysgrifennu gan Clovis II. Yng Nghytundeb Verdun, fe'i gwnaed yn ddinas niwtral rhwng Neustria ac Austrasia. Yn 881, cipiwyd y dref gan y Normaniaid. Cipiwyd hi gan fyddin Louis XIV, brenin Ffrainc yn 1677 , a daeth yn rhan o Ffrainc dan Gytundeb Nijmegen y flwyddyn ddilynol.
Remove ads
Pobl enwog o Valenciennes
- Henri VII, ymerawdwr Glân Rhufeinig (c.1275-1313)
- Philippa o Hanawt (1314-1361), gwraig a brenhines Edward III, brenin Lloegr
- Jean Froissart (c.1337–c.1405), croniclydd o'r Canol Oesoedd
- Antoine Watteau (1684-1721), arlunydd
- Charles de Gaulle (1837-1880), bardd Llydaweg ac ysgolhaig Celtaidd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads