Medway
awdurdod unedol yng Nghaint From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Caint, De-ddwyrain Lloegr, yw Medway.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 192 km², gyda 277,855 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gravesham i'r gorllewin, Bwrdeistref Tonbridge a Malling a Bwrdeistref Maidstone i'r de, Bwrdeistref Swale i'r dwyrain, ac Aber Tafwys i'r gogledd.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1998.
Rhennir yr awdurdod yn naw plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf fawr yn y de sy'n ffurfio cytref sy'n cynnwys (o'r gorllewin i'r dwyrain) trefi Strood, Rochester, Chatham, Gillingham a Rainham. Lleolir y pencadlys yn Chatham.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads