Veep
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Veep yn gyfres gomedi-wleidyddol, Americanaidd, sy'n serennu Julia Louis-Dreyfus a ymddangosodd gyntaf ar HBO ar 22 Ebrill 2012. Crewyd y gyfres gan Armando Iannucci fel addasiad o'r comedi sefyllfa Brydeinig The Thick of It.[2]
Lleolir y gyfres yn swyddfa Selina Meyer, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ffuglennol, a ddaw yn ddiweddarach yn Arlywydd. Mae'r gyfres yn dilyn Meyer a'i thîm yn ei hymdrech i wneud ei marc ar wleidyddiaeth (ddychmygol) UDA, heb gael ei baglu gan gyd-wleidyddion cyfrwys a dichellgar.[3]
Derbyniodd Veep ganmoliaeth gan y beirniaid ffilm, ac enillodd sawl gwobr o bwys. Fe'i henwebwyd chwe blynedd o'r bron am Wobr Emmy Primetime am y 'Gyfres Eithriadol o Dda' ac enillodd bedair gwaith (hyd at 2017). Mae hefyd wedi ennill nifer o wobrau Writers Guild of America Award for Television, ac enillodd perfformiad Louis-Dreyfus fel Selina Meyer bum Gwobr Primetime Emmy am yr actores eithriadol o dda a dwy wobr Screen Actors Guild Awards, dwy Wobr Critics' Choice Television Awards, a Gwobr y TCA - Television Critics Association Award, a 5 enwebiad am Wobr y Golden Globe. Enwebwyd Tony Hale 5 gwaith yn olynol am Wobr Emmy (yn chwarae Gary Walsh) gan ennill yn 2013 a 2015.
Cychwynnodd y 6ed gyfres ar 16 Ebrill 2017,[4] a chafwyd addewid o 7fed gyfres yn 2018.[5]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads