Victorinus

From Wikipedia, the free encyclopedia

Victorinus
Remove ads

Marcus Piav(v)onius Victorinus (bu farw 271) oedd ymerawdwr yr Ymerodraeth Alaidd rhwng 269 a 271.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thumb
Victorinus ar ddarn arian Antonianus

Roedd Victorinus i bob golwg o deulu cyfoethog, ac yn filwr galluog. Wedi marwolaeth Marius yn hydref 269, cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr. Ni dderbyniwyd ef yn Hispania, a ddychwelodd at yr Ymerodraeth Rufeinig.

Yn 270, penderfynodd dinas Augustodunum Haeduorum (Autun) ddychwelyd at yr Ymerodraeth Rufeinig hefyd. Gosododd Victorinus warchae ar y ddinas, a'i chipio wedi 7 mis o warchae. Dychwelodd Victorinus i'w brifddinas, Cwlen, ond yn nechrau 271 llofruddiwyd ef gan un o'i swyddogion.

Olynwyd ef gan Tetricus I, a wnaed yn ymerawdwr gan fam Victorinus, Victoria.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads