Virginia

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Virginia
Remove ads

Talaith yng nghanolbarth arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, ar Gefnfor Iwerydd yw Virginia. Ceir gwastadir arfordirol isel yn y dwyrain sy'n codi i fryniau bychain sy'n arwain i'r Appalachians coediog yn y gorllewin. Ers canrifoedd mae'n enwog am ei thybaco.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Cafodd Virginia ei henwi ar ôl Elisabeth I, brenhines Lloegr, "y Frenhines Wyryfol". Sefydlwyd y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd yno gan Cwmni Virginia yn 1607. Tyfodd yn gyflym yn y ddwy ganrif nesaf. Un o'r rhai a denwyd yno oedd y bardd Goronwy Owen, a fu farw yno ar ei blanhigfa fach yn 1769. Roedd yn fagwrfa i sawl un o arweinwyr y Chwyldro Americanaidd, a daeth yn dalaith yn 1788. Roedd 4 allan o 5 arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yn frodorion o Virginia, ond yn ystod Rhyfel Cartref America Richmond oedd prifddinas Cynghreiriad y De; erys yn brifddinas y dalaith heddiw.

Thumb
Lleoliad Virginia yn yr Unol Daleithiau
Remove ads

Dinasoedd Virginia

1Virginia Beach437,994
2Norfolk242,803
3Chesapeake222,209
4Richmond205,533
5Newport News180,719
6Alexandria84,913
7Hampton137,436
8Roanoke97,032

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Virginia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads