William Simons
Actor Prydeinig aned yng Nghymru (1940-2019) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor a aned yng Nghymru oedd William Simons (17 Tachwedd 1940 – 21 Mehefin 2019)[1]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel PC Alf Ventress yn Heartbeat, rôl a chwaraeodd am 18 mlynedd rhwng 1992 a 2010.
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Simons yn Abertawe lle roedd ei dad wedi'i leoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei fagu yn Ne Cymru nes i'r teulu symud i Ogledd Llundain. Dechreuodd actio fel plentyn[2], gan ymddangos yn y ffilmiau No Place for Jennifer (1950), Where No Vultures Fly (1951) a West of Zanzibar (1954). Yna dioddefodd o acne difrifol a gweithiodd fel rheolwr llwyfan am bedair blynedd cyn penderfynu dod yn actor fel oedolyn.[3]
Remove ads
Heartbeat
Chwaraeodd PC Ventress drwy gydol yr 18 mlynedd o gyfres Heartbeat. Er ei fod yn chwarae ysmygwr trwm, nid oedd Simons yn ysmygu mewn bywyd go iawn a rhoddwyd sigaréts llysieuol iddo i chwarae y rhan.[3] Mae'r cymeriad yn blismon sydd yn ddiffygiol o ran yr ochr gorfforol ond yn gwneud yn iawn am hynny gyda'i 'wybodaeth leol'. Ventress yw'r swyddog sydd wedi gwasanaethu hiraf am lawer o'r ddrama ac yn aml mewn rôl fel rhingyll dros dro pan mae Blaketon, Craddock a Merton yn absennol. Mewn cyfresi hwyrach o'r ddrama, mae Ventress yn cael ei orfodi i ymddeol o'r heddlu ond mae'n parhau fel aelod sifil o'r tîm ac mae hefyd yn helpu Oscar Blaketon ( Derek Fowlds) mewn rôl ymchwil breifat.
Remove ads
Rhannau actio eraill
Roedd rhannau eraill yn cynnwys rôl yn Crown Court fel y bargyfreithiwr Martin O'Connor QC,[4] The Inspector Alleyn Mysteries fel yr Arolygydd Fox, Cribb fel Cwnstabl Thackeray a'r stori Doctor Who, "The Sun Makers", fel Mandrel. Ymddangosodd hefyd yn Auf Wiedersehen Pet, Coronation Street, The Sweeney, Minder, Dempsey & Makepeace, Last of the Summer Wine, The Darling Buds of May, Wish Me Luck, Bergerac, Casualty a Lovejoy.
Gwaith elusennol
Roedd yn noddwr i'r elusen Changing Faces sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef anffurfiadau gwyneb.[3]
Ffilmyddiaeth rhannol
- No Place for Jennifer (1950) - Jeremy
- Where No Vultures Fly (1951) – Tim Payton
- West of Zanzibar (1954) – Tim Payton
- Not So Dusty (1956) – Derek Clark
- On the Fiddle (1961) – Private (uncredited)
- Mystery Submarine (1963) – Leading Seaman Grant
- Clash by Night (1964) – Guard Outside Barn (uncredited)
- Pope John Paul II (1984, TV film) – Foreman Krauze
- The Woman in Black (1989, TV film) – John Keckwick
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads