Y Taliban

From Wikipedia, the free encyclopedia

Y Taliban
Remove ads

Mudiad gwleidyddol, crefyddol, a milwrol sydd yn arddel ffwndamentaliaeth Islamaidd Deobandi, Islamiaeth filwriaethus, a jihadaeth yn Affganistan yw'r Taliban neu Taleban (Pashto: طالبان, ṭālibān sef "myfyrwyr") a reolai Emirad Islamaidd Affganistan o 1996 hyd 2001 ac ers 2021. Pashtuniaid ydynt yn bennaf.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Idioleg ...

Yn niwedd 1994, yn ystod Rhyfel Cartreff Affganistan (1992–96), daeth carfan y Taliban i'r amlwg dan arweiniad Mohammad Omar, ac erbyn 1996 llwyddasant i gipio'r rhan fwyaf o diriogaeth Affganistan bob yn ddarn, gyda chymorth grwpiau eithafol eraill ac Arabiaid Affganaidd a oedd yn gyn-filwyr y mujahideen. Ym Medi 1996, meddiannwyd y brifddinas Kabul o'r diwedd gan y Taliban, a sefydlwyd Emirad Islamaidd Affganistan. Ar ei hanterth, rheolwyd rhyw 90% o diriogaeth y wlad gan y Taliban, a'r gweddill yn y gogledd-ddwyrain gan wrthryfelwyr Cynghrair y Gogledd, a gydnabuwyd gan nifer o wledydd fel olynydd Gwladwriaeth Islamaidd Affganistan. Pan oeddent wrth y llyw yn y wlad, cydnabuwyd yr emirad yn ddiplomyddol gan dair gwladwriaeth yn unig: yr Emiradau Arabaidd Unedig, Pacistan, a Sawdi Arabia. O dan lywodraeth Mohammed Omar, roedd mylah yn rheoli pob pentref, y rhan fwyaf ohonynt gyda chefndir o addysg yn ysgolion crefyddol Islamaidd ym Mhacistan. Roedd bron i 98% o aelodau'r Taliban yn Bashtuniaid o dde a dwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan, ond yn eu plith roedd canran bychan o wirfoddolwyr o weddill Ewrasia nad oedd yn Bashtuniaid.

Thumb
Dynion arfog y Taliban yng nghefn tryc bychan yn Herat yng Ngorffennaf 2001.

Daeth y Taliban yn ddrwg-enwog am eu triniaeth hallt o fenywod. Gorfodwyd menywod i wisgo'r burqa ar goedd; ni chaniateid iddynt weithio y tu allan i'r cartref; ni chaniateid iddynt gael eu haddysgu ar ôl cyrraedd wyth oed, a than hynny caniateid iddynt astudio'r Corân yn unig; ni chaniateid iddynt gael eu trin gan feddygon gwrywaidd heb warchodwr yn bresennol; a gwynebant chwipio cyhoeddus a'r gosb eithaf am droseddu yn erbyn cyfraith y Taliban, seiliedig ar ddarlleniad llythrennol o sharia ar ei llymaf.

Bu'r frwydr rhwng y Taliban a Chynghrair y Gogledd heb enillydd nes 2001. Cwympodd y Taliban yn sgil goresgyniad y wlad gan Unol Daleithiau America yn niwedd 2001, a sefydlwyd Gweriniaeth Islamaidd Affganistan gyda chymorth yr Americanwyr a'r glymblaid ryngwladol. Aeth y lluoedd hynny ati i drechu'r Taliban yn filwrol ym mhob rhan o'r wlad, ond parhaodd llecynnau o wrthsafiad Gwrthryfel y Taliban am ugain mlynedd arall bron, yn arbennig yn nhaleithiau Kandahar a Helmand. Ym Mai 2021, wrth i'r nol Daleithiau ddechrau encilio'r gweddill o'u lluoedd yn Affganistan, lansiwyd ymgyrch ymosodol gan y Taliban yn erbyn y llywodraeth mewn ymgais i orchfygu'r holl wlad a cheisio adfer yr Emirad Islamaidd. Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021, llwyddodd y Taliban gipio mwy o diriogaeth nag ar unrhyw bryd ers eu cwymp yn 2001. Erbyn canol mis Awst amgylchynwyd Kabul, y ddinas fawr olaf yn y wlad dan reolaeth y llywodraeth, gan luoedd y Taliban. Ffoes yr Arlywydd Ashraf Ghani o'r wlad, a chwympodd y llywodraeth genedlaethol. Cipiwyd Kabul ganddynt ar 15 Awst, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Taliban ac ailsefydlu Emirad Islamaidd Affganistan.

Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads