Ynys Môn (etholaeth Senedd Cymru)
etholaeth Cynulliad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Etholaeth Senedd Cymru o fewn Rhanbarth Gogledd Cymru ydy Ynys Môn. Mae'n ethol un aelod drwy ddull cyntaf i'r felin. Mae hefyd yn rhan o etholaeth ranbarthol Gogledd Cymru, sydd yn ethol pedwar aelod ychwanegol er mwyn cael cynrichiolaeth mwy cyfrannol ar gyfer y rhanbarth. Yr aelod dros yr etholaeth yw Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).
Remove ads
Ffiniau
Crëwyd etholaeth Senedd Cymru Ynys Môn yn 1999, gyda'r un ffiniau ac etholaeth seneddol o'r un enw, a'r un ffiniau a Sir Fôn.
Crëwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn ystod yr etholiad cynulliad cyntaf hefyd yn 1999, ac ers 2007 mae hi wedi cynnwys etholaethau Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrwy, Arfon, De Clwyd, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.
Hanes
Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999, yr etholiad cyntaf i'r Cynulliad, enillwyd y sedd gan Ieuan Wyn Jones, a ddaeth yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 2000 a 2012. Ar yr 20fed o Fehefin, 2013, ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones, i achosi isetholiad a gynhaliwyd ar y 1af o Awst. Enillwyd yr isetholiad yn gyfforddus gan Rhun ap Iorwerth gyda mwyafrif o dros 9000 o bleidleisiau. Yn yr etholiad Cynulliad canlynol, daliwyd y sedd eto gan Rhun ap Iorwerth gyda mwyafrif tebyg.
Remove ads
Pleidleisio
Mewn etholiadau Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais: un ar gyfer ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd dros yr etholaeth, a'r llall ar gyfer rhestr pleidiol o ymgeiswyr rhanbarthol. Defnyddir Dull d'Hondt ar gyfer dyrannu seddi rhanbarthol, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau yn y rhanbarth.
Aelodau Cynulliad/ Aelodau o'r Senedd
Aelodau o'r Senedd
Etholiadau
Etholiadau yn y 2020au
Etholiadau yn y 2010au
Etholiadau yn y 2000au
Etholiadau yn y 1990au
Remove ads
Gweler Hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads