Zembra
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Zembra (Arabeg: زمبرة) yn ynys greigiog sy'n gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Gwlff Tiwnis.
Lleolir ynys Zembra 15 km i'r gogledd o Sidi Daoud ac El Haouaria, Cap Bon, a 55 km o borthladd La Goulette ar yr ochr arall i Gwlff Tiwnis. O ran daeareg, mae hi'n cynrychioli pen eithaf Cap Bon. Yn ogystal, mae'n un o'r tirffurfiau sy'n nodi pen deheuol Culfor Sisili. Mae ganddi arwynebedd o 391 hectar. Yn agos iddi gorwedd ynys fechan Zembretta, tua 8 km à i'r dwyrain, gydag arwynebedd o 2 hectar.
Nodweddir yr ynys gan ecoleg unigryw, ac o'r herwydd mae'n cael ei rhestru gan UNESCO, ers Ionawr 1977, fel gwarchodfa. Yn ogystal mae llywodraeth Tiwnisia wedi datgan y ddwy ynys gyda'i gilydd yn barc cenedlaethol ers Ebrill 1af 1977. Ers degawdau mae Zembra yn cael ei defnyddio fel gwylfa gan fyddin Tiwnisia ac mae'n anodd cael caniatád i lanio arni.
Darganfuwyd porthladd hynafol yn ne'r ynys, gyferbyn â chwareli Ffeniciaidd-Rhufeinig El Haouaria.

Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads


