From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures a bardd Almaenig oedd Agnes Miegel (9 Mawrth 1879 - 26 Hydref 1964) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau byrion am Ddwyrain Prwsia a newyddiadurwr a gefnogai'r Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, sef y blaid a ddaeth dan arweiniaeth Adolf Hitler i gynrychioli Natsïaeth ar ei ffurf waethaf.
Agnes Miegel | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1879 Königsberg |
Bu farw | 27 Hydref 1964, 26 Hydref 1964 Bad Salzuflen |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, ysgrifennwr |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Gwobr/au | Gwobr Goethe, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Q1389779, Gwobr Kleist |
Fe'i ganed yn Königsberg (Kaliningrad, Rwsia erbyn heddiw) ar 9 Mawrth 1879 a bu farw yn Bad Salzuflen.[1][2][3][4]
Masnachwyr oedd gwaith ei theulu, a phrotestaniaid o ran crefydd. Ei rhieni oedd Gustav Adolf Miegel a Helene Hofer.
Aeth Miegel i Ysgol Uwchradd y Merched yn Königsberg ac yna bu'n byw rhwng 1894 ac 1896 mewn tŷ-gwestai yn Weimar, lle ysgrifennodd ei cherddi cyntaf. Yn 1898 treuliodd dri mis ym Mharis ac yn 1900 hyfforddodd fel nyrs mewn ysbyty plant yn Berlin. Rhwng 1902 a 1904 gweithiodd fel athrawes gynorthwyol mewn ysgol breswyl i ferched ym Mryste, Lloegr. Yn 1904 mynychodd goleg hyfforddi athrawon yn Berlin, ond ni orffennodd y cwrs oherwydd salwch. Ni chwblhaodd gwrs mewn coleg amaethyddol i ferched ger Munich ychwaith ac yn 1906 bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Königsberg i ofalu am ei rhieni sâl, yn enwedig ei thad, a oedd wedi colli ei olwg. Bu farw ei mam yn 1913, ei thad yn 1917. [5]
Mor gynnar â 1900 roedd ei chyhoeddiadau cyntaf wedi tynnu sylw'r awdur Börries von Münchhausen. Cyhoeddwyd ei blodeugerdd o gerddi cyntaf diolch i'w gefnogaeth ariannol a bu'n gefnogwr ac yn hyrwyddwr diflino iddi am flynyddoedd.
Bu'n byw yn Königsberg tan ychydig cyn i'r dref gael ei chipio yn 1945, ac ysgrifennodd gerddi, straeon byrion ac adroddiadau newyddiadurol. Yn ystod y Trydydd Reich datgelodd ei bod yn gefnogwr brwd o'r gyfundrefn honno. Llofnododd y Gellgschaft Gelöbnis treuester yn 1933, sef datganiad lle roedd 88 o awduron Almaenig yn addo teyrngarwch ffyddlon i Adolf Hitler.[6] Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r NS-Frauenschaft, adain y merched yn y Blaid Natsïaidd. Yn 1940 ymunodd â'r blaid Natsïaidd ei hun. Yn Awst 1944, yng nghamau olaf yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei henwi gan Adolf Hitler fel "ased cenedlaethol eithriadol" yn rhestr arbennig yr artistiaid Almaeneg pwysicaf a ryddhawyd o bob rhwymedigaeth rhyfel.[7]
Yn Chwefror 1945 ffodd ar long, rhag y Fyddin Goch, wrth iddynt agosáu, a chyrhaeddodd Denmarc. Ar ôl rhyddhau Denmarc oddi wrth yr Alaen ar 5 Mai 1945 arhosodd yng Ngwersyll Ffoaduriaid Oksbøl tan fis Tachwedd 1946. Yn 1946 dychwelodd i'r Almaen, lle'r oedd dan waharddiad rhag cyhoeddi, tan 1949.
Cafodd dŷ yn Bad Nenndorf, lle ysgrifennodd nes iddi farw. Roedd Agnes Miegel yn ysgrifennu cerddi a straeon byrion am Ddwyrain Prwsia, tir ei hieuenctid. Cafodd ei hystyried yn llais yr 'Heimatvertriebene', y bobl Almaenaidd a oedd wedi byw cyn y rhyfel yn Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl ac mewn rhannau o'r Almaen a oedd wedi'u hatodi gan Wlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd ar ôl y rhyfel, pobl a oedd yn gorfod gadael pan orchfygwyd yr Almaen Natsïaidd. Derbyniodd Miegel y teitl anrhydeddus Mutter Ostpreußen ("Mam Dwyrain-Prwsia") gan ei hedmygwyr.
Bu'n aelod o Die Kogge am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.