From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor o Gymro yw Alexander Vlahos (ganwyd 30 Gorffennaf 1988) sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae Philippe d'Orléans, brawd y frenin Louis XIV, yng nghyfres deledu Versailles ar Canal+ ac am chwarae Mordred yn nrama Merlin ar y BBC.
Alexander Vlahos | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1988 Llantrisant |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Vlahos yn y Tymbl, Sir Gaerfyrddin,[1] cyn symud i Lantrisant, Morgannwg Ganol. Mae ei dad yn Roegwr tad a'i fam yn Gymraes, ac mae'n siarad Cymraeg a Saesneg.[2] Bu'n chwarae hoci iâ o wyth oed i 18 oed.[3] Hyfforddodd fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, gan raddio yn 2009.[4][5]
Ymddangosodd gyntaf yn nrama BBC Cymru, drama, Crash, yn 2009 yn portreadu Dylan. Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd yn yr opera sebon feddygol Doctors mewn stori dros wythnos o'r enw Master Of The Universe, lle roedd yn chwarae'r brif rhan o Lewis Cutler. Enwebwyd y penodau fel 'Pennod Sengl Gorau' a 'Golygfa Trawiadol y Flwyddyn' yng Ngwobrau Sebon Prydeinig 2010.[6] Hefyd yn 2010, ymddangosodd yn y ddrama GymraegPen Talar a The Indian Doctor, ac yn y ffilm Bright Lights.
Yn 2012 enillodd rôl Preifat Keenan yn Privates, cyfres deledu fer am consgriptiaid yn y Gwasanaeth Cenedlaethol wedi ei osod yn y 1960au, lle roedd rhaid iddo eillio ei ben. Bu hefyd yn chwarae rhan Mordred yng nghyfres pump o Merlin, rôl a oedd yn cael ei chwarae yn wreiddiol gan Asa Butterfield yn y ddau gyfres gyntaf.[7]
O 2012 i 2016 bu'n chwarae rôl Dorian Gray yn nghyfres sain o The Confessions Of Dorian Gray gan gwmni Cynyrchiadau Big Finish.[8] Ygrifennodd un o'r penodau hefyd, The Mayfair Monster, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013,[9][10] a'r ddrama sain, HMS Surprise ar gyfer casgliad Bernice Summerfield New Frontiers a gafodd ei ryddhau ym mis Ebrill 2013.[11]
O 6 Rhagfyr 2013 ymddangosodd Vlahos yn Fortune's Fool yn yr Old Vic. Cafodd addasiad Mike Poulton o ddrama Turgenev ei gyfarwyddo gan Lucy Bailey, mewn cynhyrchiad oedd yn serennu Iain Glen a Richard McCabe.[12]
Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddwyd y byddai yn chwarae Bertie Potts yng ngyfres sain byr "The Diary of River Song" wedi ei osod ym mydysawd Doctor Who bydysawd, ochr yn ochr ag Alex Kingston.
Yn y gyfres deledu hanesyddol Ffrenging fywyd yn llys Louis XIV, Versailles, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2015, mae'n rhan o'r prif gast, yn serennu fel brawd y brenin, Philippe I, Duke of Orléans. Ffilmiwyd ail gyfres yn gynnar yn 2016 a roedd yn edrych ar ochr ysgafnach Philippe, y tro cyntaf i Vlahos bortreadu cymeriad ysgafn ers peth amser. Ar 14 Medi 2016 cadarnhaodd y cynhyrchydd Claude Chelli fod Versailles wedi ei adnewyddu am drydydd cyfres, bydd yn dechrau ffilmio ym mis Ebrill 2017.[13]
Yn y ddrama-ddogfen Barbarians Rising (2016), cyd-gynhyrchiad byd-eang ar gyfer sianeli History, mae Vlahos yn chwarae yr ymerawdwr Rhufeinig Valentinian mewn un bennod. Mae hefyd yn portreadu yr athronydd a mathemategydd Rwmaneg Maurice Solovine mewn un bennod o Genius, cyfres sgriptiedig cyntaf y National Geographic Channel, a ddangoswyd gyntaf yn Ebrill 2017.[14]
O 11 Chwefror i 11 Mawrth 2017 serennodd Vlahos yng nghynyrchiad Max Gill o La Ronde, fersiwn modern, niwtral o ran rhywedd o'r ddrama gan Arthur Schnitzler. Roedd cast o bedwar yn chwarae y deg cymeriad a ddewiswyd ar hap ar y llwyfan bob noson gyda olwyn roulette. Yn nrama clywedol Hamlet gan gynyrchiadau Big Finish yn 2017 roedd Vlahos yn chwarae'r prif gymeriad o Hamlet.[15]
Teitl | Blwyddyn | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
Crash | 2009-2010 | Dylan | |
Doctors |
2010 | Lewis Cutler | 5 pennod |
All Shook Up! |
2010 | Dafydd Hibbard | |
Pen Talar | 2010 | Iolo | 3 pennod |
The Indian Doctor | 2010 | Tom Evans | 5 pennod |
The Tower |
2011 | Tom | Ffilm deledu |
Merlin | 2012 | Mordred | 12 pennod |
Privates | 2013 | Preifat Keenan | 5 pennod |
Versailles | 2015–2018 | Philippe I, Duke of Orléans | Prif gast |
Barbarians Rising |
2016 | Valentinian III | 4 pennod |
Prisoner Zero | 2016 | Zero | Llais |
Genius | 2017 | Maurice Solovine | 3ydd bennod |
Teitl | Blwyddyn | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
Bright Lights |
2010 | Steff | Ffilm fer |
Truth or Dare | 2012 | Luke | |
Button Eyes | 2013 | Bachgen | Ffilm fer |
The Head Hunter | 2016 | Herbert Mullin |
Teitl | Blwyddyn | Cynhyrchydd | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Gallifrey | 2011 | Big Finish Productions |
Cyfres 4 | |
The Confessions o Dorian Gray | 2012-2016 | Dorian Gray | Cyfresi 1-5 | |
Bernice Summerfield | 2012 | Gray | Casgliad 3 "Legion" | |
2013 | Awdur "HMS Surprise" ar gasgliad 4 "New Frontiers" | |||
The Diary of River Song |
2015 | Bertie Potts | ||
Doctor Who - The Lives of Captain Jack | 2017 | Y Dieithryn | ||
Hamlet | 2017 | Hamlet |
Teitl | Flwyddyn | Rôl | Cyfarwyddwr |
---|---|---|---|
Fortune's Fool |
2013 | Pavel Yeletsky | Lucy Bailey |
Macbeth[16] | 2013 | Malcolm | Kenneth Branagh |
La Ronde | 2017 | Max Gill |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.