Hamlet

From Wikipedia, the free encyclopedia

Hamlet
Remove ads

Trasiedi gan William Shakespeare yw Hamlet (/ˈhæmlɪt/) neu Trasiedi Hamlet, Tywysog Denmarc (Saesneg Hamlet neu The tragical history of Hamlet, Prince of Denmark). Amcangyfrifir ei bod wedi'i chyfansoddi rywbryd rhwng 1599 a 1601. Dyma ddrama hiraf Shakespeare. Wedi'i lleoli yn Nenmarc, mae'r ddrama'n cyfleu hanes y Tywysog Hamlet a'i ymdrechion i ddial ar ei ewythr, Claudius, a lofruddiodd ei dad, er mwyn cipio ei orsedd a phriodi mam Hamlet. Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan J. T. Jones yn 1960.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Awdur ...

Ystyrir Hamlet ymhlith y "dramâu mwyaf pwerus a dylanwadol yn yr iaith Saesneg", gyda stori sy'n gallu cael ei "hail-adrodd a'i haddasu'n ddiddiwedd gan eraill."[1] Mae tair fersiwn wahanol a chynnar ar gael: y Chwarter Cyntaf (Ch1, 1603); yr Ail Chwarter (Ch2, 1604); a'r Ffolio Cyntaf (F1, 1623).

Remove ads

Cymeriadau

  • Tywysog Hamlet - mab y diweddar Frenin a nai y Brenin presennol, Claudius.
  • Brenin Claudius - Brenin Denmarc, ewythr Hamlet a brawd i'r cyn Frenin
  • Gertrude - Brenhines Denmarc a mam Hamlet
  • Polonius - uwch gynghorydd i'r Brenin
  • Ophelia - merch Polonius
  • Horatio - cyfaill Hamlet
  • Laertes - mab Polonius
  • Rosencrantz a Guildenstern - gweision y llys a chyfeillion Hamlet
  • Fortinbras - Tywysog o Norwy
  • Agorwyr y Bedd
  • Voltemand a Cornelius - gweision y llys
  • Marcellus - swyddog
  • Bernardo - swyddog
  • Francisco - milwr
  • Reynaldo - gwas Polonius
  • Osric - gwas y llys
  • Actorion o'r Cwmni Drama
  • Ysbryd - ysbryd tad Hamlet, y cyn-Frenin Hamlet.
Remove ads

Crynodeb

Act 1

Mae'r Tywysog Hamlet o Ddenmarc yn fab i'r Brenin Hamlet a fu farw'n ddiweddar, ac yn nai i'r Brenin Claudius, brawd ac olynydd ei dad. Priododd Claudius ar frys â gweddw'r Brenin, Gertrude, mam Hamlet, a chymryd yr orsedd iddo'i hun. Bu ffrae hirhoedlog rhwng Denmarc a Norwy, lle lladdodd y Brenin Hamlet y Brenin Norwy - Fortinbras mewn brwydr rai blynyddoedd yn ôl. Er i Ddenmarc drechu Norwy ac ennill gorsedd Norwy i frawd y Brenin Fortinbras, mae Denmarc yn ofni y bydd mab y cyn-frenin yn dial arnynt drwy ymosod.

Thumb
Horatio, Hamlet, a'r ysbryd (Artist: Henry Fuseli, 1789)[2]

Ar noson oer, ar furiau gwarchodol Elsinore, castell brenhinol Denmarc, mae'r gwylwyr Bernardo a Marcellus yn trafod ysbryd maent wedi'i weld yn ddiweddar, sy'n debyg i'r cyn a'r diweddar Frenin Hamlet. Maent yn galw ar Horatio, cyfaill y Tywysog Hamlet, i ddod atynt fel tyst. Wedi ymweliad arall gan yr ysbryd, mae'r tri yn addo rhanu'r hyn a welsant gyda’r Tywysog.

Y dydd canlynol, mae'r llys yn ymgynnull, ac mae'r Brenin Claudius a'r Frenhines Gertrude yn trafod materion y wladwriaeth gyda'u cynghorydd oedrannus Polonius. Mae Claudius yn rhoi caniatâd i fab Polonius, Laertes, ddychwelyd i'r ysgol yn Ffrainc, ac mae'n anfon cenhadon i hysbysu Brenin Norwy am gynlluniau'r Tywysog Fortinbras. Mae Claudius yn holi Hamlet os yw'n dal i alaru am ei dad, ac yn ei wahardd rhag dychwelyd i'w brifysgol yn Wittenberg. Ar ôl i'r llys adael, mae Hamlet yn anobeithio am farwolaeth ei dad ac ailbriodas brysiog ei fam. Ar ôl clywed am yr ysbryd gan Horatio, mae Hamlet yn penderfynu ei weld ei hun.

Wrth i fab Polonius, Laertes, baratoi i adael am Ffrainc, mae merch Polonius, Ophelia, yn cyfaddef ei theimladau tuag at Hamlet, ond mae Laertes yn ei rhybuddio rhag ceisio sylw'r tywysog, ac mae Polonius yn gorchymyn iddi wrthod ei gynigion. Y noson honno ar furiau'r castell, mae'r ysbryd yn ail-ymddangos i Hamlet [sef ei dad] ac yn dweud wrtho ei fod wedi cael ei lofruddio gan Claudius (trwy dywallt gwenwyn i'w glust wrth iddo gysgu), ac yn mynnu bod Hamlet yn dial am y llofruddiaeth. Mae Hamlet yn cytuno, ac mae'r ysbryd yn diflannu. Mae'r tywysog yn ymddiried wrth Horatio a'r gwylwyr ei fod, o hyn ymlaen, yn bwriadu ymddwyn fel pe bai'n wallgof. Mae Hamlet yn eu gorfodi i dyngu llw i gadw ei gynlluniau yn gyfrinachol; fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn ansicr ynghylch yr ysbryd.

Act 2

Mae Ophelia'n rhuthro at ei thad, gan ddweud wrtho fod Hamlet wedi dod at ei drws y noson cynt yn hanner-noeth ac yn ymddwyn yn afreolaidd. Mae Polonius yn rhoi'r bai am ei wallgofrwydd ar gariad, ac yn penderfynu hysbysu Claudius a Gertrude. Wrth iddo gyrraedd, mae'r brenin a'r frenhines yn croesawu Rosencrantz a Guildenstern i Elsinore, dau gyfaill i Hamlet o'r coleg. Mae'r cwpl brenhinol wedi gofyn i'r ddau adrodd yn ôl am ymddygiad Hamlet. Mae Polonius yn aros i gael clywed: mae negeswyr o Norwy yn hysbysu Claudius fod brenin Norwy wedi ceryddu'r Tywysog Fortinbras am geisio ail-ymladd brwydrau ei dad. Bydd lluoedd Fortinbras [oedd i fod i orymdeithio yn erbyn Denmarc] yn cael eu hanfon i ymosod ar Wlad Pwyl, er yn teithio drwy diriogaeth Denmarc i gyrraedd yno.

Mae Polonius yn rhannu ei ddamcaniaeth ynghylch ymddygiad Hamlet, wrth Claudius a Gertrude cyn siarad â Hamlet i geisio deall mwy. Esgus bod yn wallgof wna Hamlet eto, ac yn sarhau Polonius yn gynnil. Pan gyrhaedda Rosencrantz a Guildenstern, mae Hamlet yn cyfarch ei "gyfeillion" yn gynnes ond yn sylweddoli'n gyflym eu bod yno i ysbïo arno ar ran Claudius. Mae Hamlet yn cyfaddef ei fod wedi cynhyrfu am ei sefyllfa ond yn gwrthod cyfaddef y gwir reswm. Cyhoedda Rosencrantz a Guildenstern eu bod wedi gwahodd criw o actorion i Elsinore, y bu iddynt eu cyfarfod ar y daith yno. Ar ôl croesawu'r actorion, mae Hamlet yn gofyn iddynt draddodi ymson am farwolaeth y Brenin Priam, fel y'i tystiwyd gan y Frenhines Hecuba, ar uchafbwynt Rhyfel Caerdroea. Yna mae Hamlet yn gofyn i'r actorion lwyfannu Llofruddiaeth Gonzago, drama sy'n cynnwys marwolaeth yn null llofruddiaeth ei dad. Mae Hamlet yn bwriadu astudio ymateb Claudius i'r ddrama, a thrwy hynny benderfynu ar wirionedd stori'r ysbryd am ei euogrwydd.

Act 3

Mae Polonius yn gorfodi Ophelia i ddychwelyd llythyrau caru Hamlet i'r tywysog tra ei fod ef a Claudius yn gwylio'n gyfrinachol er mwyn gwerthuso ymateb Hamlet. Myfyria Hamlet am fywyd, tra'n cerdded i'r neuadd wrth i'r Brenin a Polonius aros am gyrhaeddiad Ophelia. Wedi iddi gyrraedd, a cheisio dychwelyd llythyrau Hamlet, mae o'n ei chyhuddo o anfoesoldeb, er nad yw'n glir a yw hyn, hefyd, yn arwydd o wallgofrwydd neu'n ofid gwirioneddol. Mae ei ymateb yn argyhoeddi Claudius nad yw Hamlet yn wallgof dros gariad. Mae'r llys yn ymgynnull i wylio'r ddrama y mae Hamlet wedi'i gomisiynu. Ar ôl gweld yr actor Frenin yn cael ei lofruddio gan ei wrthwynebydd, drwy dywallt gwenwyn yn ei glust, mae Claudius yn codi ac yn dianc o'r ystafell; i Hamlet, mae hyn yn brawf o euogrwydd ei ewythr.

Geilw Gertrude Hamlet i'w hystafell i fynnu esboniad. Yn y cyfamser, cawn ymson gan Claudius dros yr amhosibilrwydd o edifarhau, am ei fod yn hawlio coron a gwraig ei frawd, a hynny'n anghyfreithlon. Wrth iddo ddisgyn ar ei 'liniau, mae Hamlet yn agosau, ond yn dewis peidio â'i ladd, gan ei fod yn gweddïo, a byddai hynny'n ei anfon yn syth i'r nefoedd tra bod ysbryd ei dad yn gaeth mewn purdan. Yn ystafell wely'r frenhines, mae Hamlet a Gertrude yn ymladd yn chwerw. Mae Polonius, sy'n ysbïo tu ôl i dapestri, yn galw am gymorth, tra bod Gertrude hefyd yn galw am gymorth, gan gredu bod Hamlet am ei lladd.

Thumb
Hamlet yn lladd Polonius yn ddamweiniol (Artist: Coke Smyth, 19fed ganrif).

Mae Hamlet yn trywanu'r tapestri, gan gredu mai Claudius sydd yno, ond mae'n lladd Polonius. Mewn cynddaredd, mae Hamlet yn sarhau ei fam yn greulon am ei hanwybodaeth o weithredoedd y dihiryn Claudius, ond daw'r ysbryd i mewn gan geryddu Hamlet am ei ddiffyg gweithredu a'i eiriau llym. O fethu gweld na chlywed yr ysbryd ei hun, mae Gertrude yn poeni fod sgwrs Hamlet ag ef ei hun, yn dystiolaeth pellach o'i wallgofrwydd. Ar ôl erfyn ar y Frenhines i derfynu ei pherthynas â Claudius, mae Hamlet yn ymadael, gan lusgo corff Polonius o'i ôl.

Act 4

Cellweiria Hamlet gyda Claudius ynglŷn â lleoliad corff Polonius, ac mae'r Brenin, gan ofni am ei fywyd, yn anfon Rosencrantz a Guildenstern i deithio gyda Hamlet i Loegr gyda llythyr dan sêl i Frenin Lloegr, yn gofyn iddo ddienyddio Hamlet.

Wedi'i chythruddo gan alar am farwolaeth Polonius, mae Ophelia'n crwydro Elsinore yn orffwyll. Mae Laertes yn dychwelyd o Ffrainc, wedi'i gynddeiriogi gan farwolaeth ei dad a gwallgofrwydd ei chwaer. Mae Claudius yn argyhoeddi Laertes mai Hamlet yn unig un sy'n gyfrifol, ond cyrhaedda lythyr yn nodi bod Hamlet wedi dychwelyd i Ddenmarc, gan rwystro cynllun Claudius. Er mwyn ceisio trywydd arall i ddial ar Hamlet, cynnigia Claudius ornest o gleddyfaeth rhwng Laertes a Hamlet er mwyn datrys eu cwynion. Cynllunir bod Laertes yn defnyddio cleddyf sydd â blaen gwenwynig, ac os bydd hynny'n methu, bydd Claudius yn cynnig gwin gwenwynig i Hamlet i'w longyfarch. Torra Gertrude ar eu traws, gan gyhoeddi bod Ophelia wedi boddi, er nad yw'n glir os mai trwy ddamwain y bu hynny, ynteu drwy hunanladdiad a achoswyd gan ei gwallgofrwydd.

Act 5

Thumb
Golygfa'r torrwr bedd.[3] (Artist: Eugène Delacroix, 1839)

Dadlenna Horatio drwy lythyr bod Hamlet wedi ceisio dianc ar long o fôr ladron. Mae dau dorrwr bedd yn trafod "hunanladdiad" posib Ophelia wrth agor bedd. Mae Hamlet yn cyrraedd gyda Horatio ac yn cellwair gydag un o'r torrwr bedd sy'n dod o hyd i benglog ffŵl o blentyndod Hamlet, Yorick. Mae Hamlet yn codi'r benglog, gan lefaru'r linell enwog "Och diar, Yorick druan" wrth iddo fyfyrio ar farwolaeth. Mae gorymdaith angladdol Ophelia yn agosáu, dan arweiniad Laertes. Mae Hamlet a Horatio'n cuddio, hyd nes i Hamlet sylweddoli mai Ophelia yw'r un sy'n cael ei chladdu, gan ddatgan ei gariad tuag ati. Mae Laertes a Hamlet yn ymladd wrth fedd Ophelia, cyn i'r ffrae gael ei dawelu.

Yn Elsinore, mae Hamlet yn esbonio wrth Horatio ei fod wedi darganfod llythyr Claudius ymhlith eiddo Rosencrantz a Guildenstern, gan ei newid am gopi ffug yn nodi y dylid lladd ei ddau gyn-gyfaill, yn hytrach nag ef. Mae Osric yn torri ar draws eu sgwrs i gyflwyno'r ornest gleddyfaeth i Hamlet gan Laertes. Er gwaethaf pledio Horatio, mae Hamlet yn ei dderbyn. Er i'r frwydr gychwyn yn dda, mae Gertrude yn codi llwnc destun iddo, gan ddefnyddio'r gwin gwenwynig yn ddamweiniol. Clwyfa Laertes Hamlet gyda'i lafn gwenwynig, cyn i'r ddau gyfnewid arfau, ac mae Hamlet yn clwyfo Laertes gyda'i gleddyf gwenwynig ei hun. Mae Gertrude yn cwympo ac, gan honni ei bod wedi'i gwenwyno, yn marw. Datgelir cynllun Claudius wrth Hamlet, wrth iddynt gymodi. Rhuthra Hamlet at Claudius a'i ladd. Wrth i'r gwenwyn a glwyfodd Hamlet ddod yn weithredol, mae'n cyhoeddi mai'r tywysog Norwyaidd Fortinbras [sy'n gorymdeithio drwy'r ardal] ddylai fod yn olynydd iddo. Yn ddigalon oherwydd y llanast sydd wedi'i greu o'i gwmpas, mae Horatio'n datgan y bydd yn cyflawni hunanladdiad trwy yfed gweddillion gwin gwenwynig Gertrude, ond mae Hamlet yn erfyn arno i barhau i fyw, er mwyn adrodd ei stori. Mae Hamlet yn marw ym mreichiau Horatio, gan gyhoeddi "tawelwch yw'r gweddill". Mae Fortinbras, oedd yn gorymdeithio tuag at Wlad Pwyl gyda'i fyddin, yn cyrraedd y castell, ynghyd â llysgennad o Loegr gyda'r newydd am farwolaeth Rosencrantz a Guildenstern. Mae Horatio'n addo adrodd yr hanes yn llawn am yr hyn a ddigwyddodd, ac mae Fortinbras, wrth weld teulu brenhinol cyfan Denmarc wedi marw, yn derbyn y goron ac yn gorchymyn angladd milwrol i anrhydeddu Hamlet.

Remove ads

Cefndir

Mae chwedlau tebyg i Hamlet mor gyffredin (er enghraifft yn yr Eidal, Sbaen, Llychlyn, Caergystennin, ac Arabia) fel bod y thema graidd "arwr-fel-ffŵl" o bosibl yn tarddu o syniad Indo-Ewropeaidd.[4] Gellir nodi sawl rhagflaenydd ysgrifenedig hynafol i Hamlet. Y cyntaf yw Saga Lychlynaidd ddienw Hrolf Kraki. [4] Yr ail yw chwedl Rufeinig Brutus, a gofnodwyd mewn dau waith Lladin gwahanol. Cymharodd ysgolhaig Norddig o'r 17eg ganrif Hamlet â Torfaeus, yr arwr o Wlad yr Iâ Amlóði (Amlodi) a'r arwr Tywysog Ambales (o Saga Ambales).[4]

Mae'n eithaf sicr bod Shakespeare wedi cyfansoddi'r ddrama a chreu y prif gymeriad ar gyfer Richard Burbage. Ef oedd prif drasiedwr y Lord Chamberlain's Men, gyda chof helaeth am linellau ac ystod emosiynol eang. [5] Nid yw Shakespeare yn nodi pryd mae'r ddrama wedi'i gosod.

Cynyrchiadau nodedig

Prin yw'r dystiolaeth gadarn o berfformiadau cynnar penodol o'r ddrama. Dadleuir yn aml fod criw'r llong Red Dragon, a oedd wedi'i hangori oddi ar Sierra Leone, wedi perfformio Hamlet ym mis Medi 1607. [1] Honiad mwy credadwy yw bod y ddrama wedi'i theithio yn yr Almaen o fewn pum mlynedd i farwolaeth Shakespeare,[6] a'i bod wedi'i pherfformio gerbron Iago I ym 1619 a Siarl I ym 1637.[7]

Trosiad J. T. Jones

1960au - 1970au

Thumb
Cynhyrchiad Chwaraewyr Garthewin yn 1964

Llwyfannwyd y ddrama yn Gymraeg gan Chwaraewyr Garthewin yn 1964. Cyfarwyddwr Morris Jones; trefnydd y llwyfan : Robin Jones; cast:

  • Tywysog Hamlet - Trefor Selway
  • Brenin Claudius - Rhydderch Jones
  • Gertrude - Eirwen Jones
  • Polonius - John Jones
  • Ophelia - Marian Evans
  • Horatio - Owen Huw Roberts
  • Laertes - Albert Williams
  • Rosencrantz - Dafydd Williams
  • Guildenstern - John Arfon Jones
  • Agorwr y Bedd - H. Madog

1980au

Thumb
Taflen hysbysebu Hamlet gan Theatrig 1988

Llwyfannwyd y ddrama gan gwmni Theatrig ym 1988 gyda Ceri Sherlock yn cyfarwyddo.

Cyfieithiad J. T. Jones a ddefnyddiwyd gan y cwmni, ond "cymysgedd y gwisgoedd" ddenodd llygaid Sian Llewelyn gyntaf, wrth adolygu'r cynhyrchiad yn Golwg [15 Medi 1988]; "...Roedd aelodau o'r Llys mewn coch steil Elisabeth, a'r lleill mewn dillad diweddar", ychwanegodd.[8]

Remove ads

Llyfryddiaeth

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads