From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Gwir Anrhydeddus Syr Charles Edwards, 19 Chwefror, 1867 – 15 Gorffennaf 1954 yn undebwr llafur ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Bedwellte rhwng 1918 a 1950.[1]
Charles Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1867 Gravel |
Bu farw | 15 Mehefin 1954 Dyffryn Sirhywi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Ganwyd Edwards ym mhentrefan Gravel ger Llangynllo Sir Faesyfed, yn fab i John Edwards, gwas ffarm a Catherine (née Jones) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol, Llangynllo.[1]
Ym 1885 priododd Margaret Ann merch William a Jane Davies, Abercarn. Bu iddynt fab a merch.
Ymadawodd Edwards a'r ysgol yn 12 mlwydd oed ac aeth i weithio fel gwas ffarm cyn symud i Sirhywi i weithio yn y pyllau glo ym 14 mlwydd oed. Aeth o Sirhywi i weithio mewn pwll yn Abercarn cyn setlo yn Rhisga ym 1890.
Bu'n trysorydd cyfrinfa'r glowyr yn Rhisga cyn cael ei ethol yn bwyswr (un oedd yn gwirio pwysau'r glo a gloddiwyd ar ran y gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am eu gwaith) ym Mhwll Nine Mile Point. Ym 1911 fe'i holynodd Vernon Hartshorn fel aelod o bwyllgor gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ym 1914 fe'i penodwyd yn Asiant Cynorthwyol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar gyfer ardal Tredegar, gan weithio fel dirprwy i Alfred Onions prif asiant yr ardal.[2]
Gwasanaethodd Edwards fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Ddinesig Rhisga o 1903, gan gynnwys cyfnod yn cadeirio'r cyngor [2]. Ym 1915 fe'i hetholwyd yn aelod o Gyngor Sir Fynwy.[3] Cafodd ei ethol fel aelod cyntaf etholaeth newydd Bedwellte yn etholiad cyffredinol 1918, gan dal y sedd i'r Blaid Lafur hyd ei ymddiswyddiad o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1950. Yn y senedd bu'n gwasanaethu fel chwip i'w blaid o 1929 hyd 1942 gan gynnwys bod yn brif chwip o 1931 i 1942.[1]
Fe'i hurddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1931 ac yn Farchog Baglor ym 1935 [4]. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1940.
Bu farw yn ei gartref yn Rhisga yn 87 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Tan y graig.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.