pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Chwitffordd[1][2] ( ynganiad ) (Saesneg: Whitford). Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
Eglwys y Santes Fair a Beuno Sant yn Chwitffordd | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,244 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.3°W |
Cod SYG | W04000211 |
Cod OS | SJ142782 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Dydd y Farn (1086)[3] ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mersia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Becky Gittins (Llafur).[5][6]
Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.
Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan. Mae'r garreg yn dyddio'n ôl i'r 11g.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Chwitffordd (pob oed) (2,322) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Chwitffordd) (470) | 20.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Chwitffordd) (1467) | 63.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Chwitffordd) (282) | 29.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.