palaeontolegydd Gymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Paleontolegwr ac arloeswr sŵarcheoleg o Gymru oedd Dorothea Minola Alice Bate FGS (8 Tachwedd 1878 – 13 Ionawr 1951), a elwid hefyd yn Dorothy Bate. Gwaith ei bywyd oedd dod o hyd i ffosilau o famaliaid a ddiflannodd yn ddiweddar gyda'r bwriad o ddeall sut a pham esblygwyd ffurfiau cawraidd a corachaidd.[1]
Dorothea Bate | |
---|---|
Ganwyd | 8 Tachwedd 1878 Tŷ Napier, Caerfyrddin |
Bu farw | 13 Ionawr 1951 o coronary thrombosis Westcliff-on-Sea |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | anthropolegydd, paleontolegydd, adaregydd, archeolegydd, swolegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cronfa Wollaston, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain |
Ganwyd yn Sir Gaerfyrddin, roedd Bate yn ferch i Uwch-arolygydd Heddlu Henry Reginald Bate a'i wraig Elizabeth Fraser Whitehill. Roedd ganddi chwaer hŷn a brawd iau.[2] Ni chafodd llawer o addysg ffurfiol a dywedodd unwaith bod ei addysg "mond wedi ei dorri ar draws yn achlysurol gan ysgol".[2]
Yn 1898, yn bedwar ar bymtheg oed, cafodd Bate swydd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain. Roedd yn didoli crwyn adar yn Ystafell Adar yr Adran Sŵoleg a pharatoi ffosilau yn ddiweddarach.[3] Yno arhosodd am bron i hanner can mlynedd gan ddysgu adareg, palaeontoleg, daeareg ac anatomeg. Roedd yn weithiwr ar dasg, yn cael ei thalu am y nifer o ffosilau roedd hi'n paratoi.[2]
Yn 1901 cyhoeddodd Bate ac ei phapur gwyddonol cyntaf, "A short account of a bone cave in the Carboniferous limestone of the Wye valley", a ymddangosodd yn y Geological Magazine, oedd yn sôn am esgyrn mamaliaid bach Pleistosenaidd.[2]
Yr un flwyddyn, ymwelodd â Cyprus, gan aros yno am dros 18 mis ar ei draul ei hun, i chwilio am esgyrn, gan ddod o hyd i ddeuddeg gwaddod newydd, mewn ogofâu esgyrnddwyn, yn eu plith esgyrn o Hippopotamus minor.[2] Yn 1902, gyda grant a enillwyd drwy ymdrech gan y Gymdeithas Frenhinol, mewn ogof ym mryniau Kyrenia darganfu rywogaeth newydd o eliffant corachaidd, a enwyd ganddi yn Elephas cypriotes, a ddisgrifiwyd yn ddiweddarach mewn papur ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol.[4][5] Tra yng Nghyprus arsylwodd hefyd (a daliodd, saethodd a blingodd[1]) famaliaid byw ac adar a paratôdd nifer o bapurau eraill, gan gynnwys disgrifiadau o Lygoden Bigog Cyprus (Acomys nesiotes) ac isrywogaeth o'r Dryw Ewrasiaidd (Troglodytes troglodytes cypriotes). Yn Cyprus, bu Bate yn lletya yn bennaf yn Paphos gyda Chomisiynydd Ardal o'r enw Wodehouse.[2] Pan nad oedd yn teithio mewn ardaloedd anghysbell, yn aml ar ei ben ei hun, roedd yn byw bywyd cymdeithasol llawn.[5]
Yn ddiweddarach aeth ar nifer o deithiau i sawl ynys ym Môr y Canoldir, yn cynnwys Creta, Corsica, Sardinia, Malta, ac yr Ynysoedd Balearig, gan gyhoeddi gwaith ar eu ffawna cynhanesyddol.[2] Yn ynysoedd y Balearig yn 1909, darganfu rhywogaeth Myotragus balearicus Caprinae, oedd yn anhysbys cyn hynny.[2] Ar lwyfandir Kat, yn nwyrain Creta, daeth o hyd i'r Afonfarch corachaidd Cretaidd.[6] Yn Creta, daeth i adnabod yr archeolegwyr oedd yn cloddio Knossos a safleoedd eraill ar yr ynys, oedd yn taflu goleuni ar y gwareiddiad Minoaidd,[1] megis Arthur Evans.
Wedi iddi cael ei aflonyddu'n rhywiol gan yr Is-Gennad Prydeinig yn Majorca, dywedodd Bate: "I do hate old men who try to make love to one and ought not to in their official positions."[7]
Yn y 1920au, gweithiodd Bate gyda'r archeolegydd Athro Dorothy Garrod ym Mhalestina, ac yn 1937 cyhoeddodd y ddau lyfr ar y cyd The Stone Age of Mount Carmel cyfrol 1, rhan 2: Palaeontology, the Fossil Fauna of the Wady el-Mughara, yn dehongli gwaith cloddio Mynydd Carmel.[2][8] Ymhlith y darganfyddiadau eraill, fe adroddodd y ddau ar weddillion yr afonfarch.[9]
Gweithiodd Bate gyda Percy R. Lowe hefyd, ar ffosilau estrys yn Tsieina.[2] Roedd hi'n swarcheolegydd arloesol, yn enwedig yn y maes dehongli hinsoddol.[3] Cymharodd gyfran cyfrannau cymharol weddillion y Gazella a Dama.[3]
Yn y 1930au hwyr, tua diwedd ei gyrfa gwaith maes, darganfu esgyn crwban mawr yn Bethlehem.[1]
Roedd llawer o archeolegwyr ac anthropolegwyr yn dibynnu ar ei harbenigedd yn adnabod esgyrn ffosilau, gan gynnwys Louis Leakey, Charles McBurney, a John Desmond Clark.[2]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trosglwyddodd Bate o adran ddaeareg yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain i'w gangen sŵolegol yn Tring, ac yn 1948, ychydig fisoedd yn fyr o'i phen-blwydd yn ddeg a thrigain, fe'i penodwyd yn swyddog mewn gofal yno.[2] Er ei bod yn dioddef o ganser, bu farw o drawiad ar y galon ar 13 Ionawr 1951, ac fel Gwyddonydd Cristnogol cafodd ei hamlosgi. Cafodd ei phapurau personol eu dinistrio mewn tân tŷ yn fuan ar ôl ei marwolaeth.[3] Ar ei desg yn Tring roedd rhestr o 'Bapurau i ysgrifennu'. Erbyn yr olaf yn y rhestr roedd wedi ysgrifennu Swan Song.[2]
Roedd ei hystâd ar ôl ei marwolaeth yn gyfanswm o £15,369.[10]
Yn 2005, crëwyd 'adlun Dorothea Bate' yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol fel rhan o brosiect i ddatblygu oriel o gymeriadau nodedig i gylchrodio eu casys arddangos. Mae hi felly ymhlith enwogion eraill gan gynnwys Carolus Linnaeus, Mary Anning, a William Smith. Maent yn dweud straeon am hanes eu bywydau a'i darganfyddiadau.[3]
Yn ei chofiant Discovering Dorothea: the Life of the Pioneering Fossil-Hunter Dorothea Bate, mae Karolyn Shindler yn disgrifio Bate yn "ffraeth, egr, clyfar a dewr".[3] Shindler hefyd yw awdur y bywgraffiad yn argraffiad 2004 yr Oxford Dictionary of National Biography.[2]
Mae portread dyfrlliw o Bate fel merch ifanc, a ddarluniwyd gan ei chwaer, yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol. Ynddo mae hi'n gwisgo ffrog ddu wedi addurno gyda les gwyn, a rhosyn mawr pinc.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.