Cyprus

ynys yn y ddwyrain y Môr Canoldir From Wikipedia, the free encyclopedia

Cyprus
Remove ads

Ynys yn y Môr Canoldir 113 km o Dwrci yw Gweriniaeth Cyprus neu Cyprus (/ˈkɪprɨ̞s/ hefyd Ciprus) (Groeg: Κύπρος Kýpros; Twrceg: Kıbrıs). Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan y wlad boblogaeth o 1,344,976 (2023)[1], sydd tua hanner poblogaeth Cymru.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Mae'r ynys wedi'i rhannu yn ddwy wladwriaeth - gwladwriaeth y de, Gweriniaeth Cyprus sydd gan mwyaf yn Roeg ei hiaith ac yn Gristnogol, a gwladwriaeth y gogledd sydd yn Dwrceg ei hiaith ac yn Foslemaidd. Mae gwladwriaeth y de yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Ni chydnabyddir bodolaeth gwladwriaeth y gogledd, sef 36% o'r ynys o ran arwynebedd, gan lawer o wledydd y byd, ond fe'i cynhelir gan bresenoldeb milwrol Twrci.[2] Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn berchen ar ddau safle milwrol ar yr ynys, Akrotiri a Dhekelia.

Thumb
Cyprus a Chymru o ran lleoliad a maint.
Thumb
Llun o Gyprus o Loeren MODIS
Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads