mathemategydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Mathemategydd cymhwysol Seisnig oedd George Cyfri’n CewriHartley Bryan FRS (1 Mawrth 1864 – 13 Hydref 1928) a oedd yn awdurdod ar thermodynameg ac awyrenneg. Yn bennaf, fe'i cofir am ddatblygu triniaeth fathemategol o fudiant awyrennau wrth hedfan fel cyrff anhyblyg gyda chwe gradd o ryddid.[1]
George Hartley Bryan | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1864 Caergrawnt |
Bu farw | 13 Hydref 1928 Bordighera |
Man preswyl | Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | flight engineer, mathemategydd, ffisegydd, peiriannydd, athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ganed Bryan yng Nghaergrawnt ar Ddydd Gŵyl Dewi 1864 a magwyd ef gan ei fam a'r teulu estynedig.[2] Addysgwyd ef adref gan ei fam, ac yna yng Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, gan fyw adref. Derbyniodd ei BA ym 1886, MA ym 1890, a DSc ym 1896. Dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo gan ei goleg a'i alluogodd i aros yng Nghaergrwnt am rai blynyddoedd gan arbenigo mewn cymhwyso mathemateg i ddadansoddi thermodynameg, cangen o ffiseg sy’n ymwneud â natur gwres ac egni. Fe’i etholwyd yn ifanc iawn yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ar sail ei waith.[2]
Bu farw yn Bordighera, yr Eidal, yn 84 oed.
Yn 1896 apwyntiwyd ef yn athro ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac o fewn ychydig fisoedd, yn 32 oed, dyrchafwyd ef i Gadair Mathemateg Bur a Chymhwysol y brifysgol. Ei brif gynorthwywyr yno oedd Edgar Henry Harper, darlithydd mewn mathemateg a Ei brif gynorthwywyr ym Mangor oedd Edgar Henry Harper, darlithydd mewn mathemateg, a William Ellis Williams ("W.E."), mab i chwarelwr yn Nyffryn Ogwen. Cyfrannodd WE yn helaeth i ddatblygiad Peirianneg Drydanol ym Mangor ac am ugain mlynedd olaf ei yrfa, bu’n bennaeth Adran Trydan Cymhwysol newydd a sefydlwyd yno yn 1927 ac fe'i dyrchafwyd yn Athro cyntaf peirianneg electronig yn 1942.[2]
WE oedd y dyn ymarferol, y periannydd gyda’r gallu i gynllunio arbrofion er mwyn rhoi syniadau Bryan ar brawf. Un o’r arbrofion mwyaf uchelgeisiol, a llai llwyddiannus, oedd adeiladu awyren a cheisio’i hedfan ar Draeth Coch ger Benllech ar Ynys Môn.
Yn 1911, yn fuan ar ôl hedfaniad llwyddiannus y brodyr Wright, cyhoeddodd Bryan ei gampwaith, Stability in Aviation, llyfr cwbl chwyldroadol. Mae'r astudiaeth hon o sadrwydd awyren yn ddadansoddiad mathemategol manwl sy'n sail i ddyluniad yr awyren fodern. Dros gan mlynedd wedi’i gyhoeddi mae'n parhau i fod yn glasur yn ei faes.
Ar wahân i fân wahaniaethau mewn nodiant, mae hafaliadau Bryan yn 1911 yr un fath â'r rhai a ddefnyddir heddiw i werthuso awyrennau modern. Yn rhyfeddol efallai, mae hafaliadau Bryan - a gyhoeddwyd wyth mlynedd yn unig ar ôl i’r awyren gyntaf hedfan - yn fwyaf cywir wrth eu rhoi ar jetiau uwchsonig! Wrth werthuso awyrennau yn fathemategol, canolbwyntiodd Bryan ar faterion sefydlogrwydd aerodynamig yn hytrach nag ar reolaeth; mae sefydlogrwydd a rheolaeth awyren yn tueddu i orwedd ar ddau ben arall yr un sbectrwm. Roedd ei ganlyniadau aeronautig yn estyniad o'i waith cynharach ym maes dynameg hylif.[3] Ym 1888, datblygodd Bryan fodelau mathemategol ar gyfer pwysau hylif mewn pibell ac ar gyfer pwysau bwclio allanol. Mae'r modelau hyn yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Ym 1890, darganfu Bryan yr hyn a elwir yn "effaith syrthni tonnau" (wave inertia effect) mewn cregyn elastig tenau axi-gymesur. Yr effaith hon yw'r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer gyrosgopi modern cyflwr solid gan ddefnyddio cyseinyddion hemisfferig neu "wydr gwin", a ymhelaethwyd ac a ddatblygwyd ymhellach gan Dr. David D. Lynch bron i ganrif ar ôl darganfyddiad gwreiddiol Bryan. Mae'r synwyryddion newydd, manwl gywir hyn bellach yn cael eu datblygu yn yr Unol Daleithiau, yr Wcrain, Singapore, Gweriniaeth Korea, Ffrainc, De Affrica, a thir mawr Tsieina. Fe'u defnyddir ar gyfer systemau canllaw lloeren, ymhlith cymwysiadau eraill.[3]
Mae astudiaethau seismologig Bryan o effeithiau Coriolis mewn cylchoedd hylif enfawr wedi derbyn cadarnhad arbrofol gan ddata a gasglwyd gan orsafoedd seismologig a sefydlwyd i ganfod ffrwydradau niwclear yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal ag o ddata seismograffig o Ddaeargryn Mawr Chile ym 1960. Bu farw yn Bordighera, yr Eidal.
Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym Mehefin 1895. Roedd yn enillydd medal Aur yn Sefydliad y Penseiri Llynges (1901), Llywydd y Gymdeithas Fathemategol (1907), ac enillydd medal Aur y Gymdeithas Awyrennol (1914).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.