Athronydd o'r Almaen oedd Gottfried Wilhelm Leibniz (1 Gorffennaf 1646 – 14 Tachwedd 1716), a anwyd yn Leipzig, yr Almaen.
Gottfried Wilhelm Leibniz | |
---|---|
Portread o Leibniz gan Bernhard Christoph Francke (olew ar ganfas) | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1646 Leipzig |
Bu farw | 14 Tachwedd 1716 Hannover |
Dinasyddiaeth | Etholaeth Sacsoni |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau, Bagloriaeth yn y Gyfraith, cymhwysiad, Doethur mewn Cyfraith, Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, cyfreithegwr, ffisegydd, athronydd, diplomydd, hanesydd, llyfrgellydd, cerddolegydd, cyfieithydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ysgrifennwr, diplomydd, bardd, peiriannydd, swolegydd, archifydd, biolegydd, daearegwr, policy advisor, athronydd y gyfraith, rhesymegwr |
Swydd | Geheimrat, court counsel, Aulic Council |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Discourse on Metaphysics, Essais de Théodicée, Calcwlws integrol, Stepped Reckoner, Q19234609, Monadology, Leibniz's notation, calculus ratiocinator, New Essays on Human Understanding |
Prif ddylanwad | Platon, Blaise Pascal, Giordano Bruno, Tomos o Acwin, Thomas Hobbes, Aristoteles, Christiaan Huygens, Maimonides, Conffiwsiws, Francisco Suárez, Nicholas of Cusa, Nicolas Malebranche, Jakob Bernoulli, Baruch Spinoza, René Descartes, Awstin o Hippo, Jakob Thomasius, Anselm o Gaergaint, Nicolaus Steno, Erhard Weigel, Jan Ámos Komenský, Plotinus, Ramon Llull, Hypatia, Pierre Gassendi, Giovanni Pico della Mirandola, Duns Scotus, Jacques Bénigne Bossuet, Ibn Tufayl |
Mudiad | Rhesymoliaeth |
Tad | Friedrich Leibniz |
Mam | Catharina Schmuck |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Yn ogystal â bod yn athronydd, roedd Gottfried Leibniz yn wyddonydd, mathemategydd, llenor, diplomydd a hanesydd.
Gyda'r eglwyswr Ffrengig Bossuet ceisiai ddarganfod modd i gymodi ac uno'r Eglwys Gatholig a'r eglwysi diwygiedig. Tua'r un adeg â Isaac Newton darganfu Leibniz calcwlws a chreodd gyfrifiadur elfennol a oedd yn gallu lluosogi rhifau. Ceisiodd yn ogystal greu iaith artiffisial — y characteristica universalis — a fyddai'n gyfrwng gyffredin i wyddonwyr a meddylwyr ymhob gwlad.
Yn ei gyfrolau athronyddol (yn yr iaith Ffrangeg) Nouveaux Essais sur l'entendement humain (1704), Essais de théodicée (1710) a Monadologie (1714) cyflwynodd a datblygodd athroniaeth ddelfrydol. Yn ôl Leibiniz mae pob bod dynol wedi ei greu o monades a rhyngddynt ceir cytgord rhagosodedig. Ar sail ei astudiaethau daeth i'r casgliad "fod pob dim am y gorau yn y byd gorau o bob byd dichonadwy" (Tout est pour le mieux dans le meilleur des mondes possibles).
Troir y dywediad enwog hwnnw o eiddo Leibniz ar ei ben gan Voltaire yn ei chwedl ddychanol Candide, sy'n ymosod ar Optimistiaeth naiïf y 18g. Mae'n bosibl bod cymeriad Candide yn cynrychioli Leibniz.
Bu farw Leibniz yn Hannover yn 1716, yn 70 oed.
Gweler hefyd
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.