gwarchodfa natur sy'n agos at arfordir Ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwarchodfa Natur Leol Comin Llangoed ac Aberlleiniog yn agos at arfordir Ynys Môn, yn y de-ddwyrain. Yr atyniad mwyaf amlwg yno yw’r castell yng nghanol y coed.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Lleiniog |
Cyfesurynnau | 53.30204°N 4.074628°W |
Perchnogaeth | Menter Môn |
Ceir dewis da o gynefinoedd gwahanol ar y safle, gan gynnwys: coetiroedd collddail gwlyb, aeddfed ac ifanc, dolydd gwlyb, dolydd sy’n llawn o flodau gwyllt, llennyrch a rhodfeydd agored, gwrychoedd, pyllau, ac Afon Lleiniog.
Mae’r bywyd gwyllt yn amrywiol iawn, yn enwedig adar (adar cân ac adar ysglyfaethus yn benodol), mamaliaid (fel dyfrgwn, ystlumod a llygod pengrwn y dŵr), amffibiaid, ymlusgiaid, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a blodau hardd yn yr hen goetiroedd.
Mae golygfeydd o Afon Menai, arfordir y gogledd o Gaernarfon yr holl ffordd i Ben-y-Gogarth, a mynyddoedd y Carneddau ac Eryri.
Un o’r nodweddion hanesyddol gorau yw Castell Aberlleiniog, sy’n heneb gofrestredig. Castell tomen a beili yw hwn, a gafodd ei godi gan filwyr Normanaidd yn ystod blynyddoedd olaf yr 11g. Mae caer gerrig i’w gweld ar gopa’r domen, ac fe gafodd y gaer ei hatgyfnerthu yn ystod y Rhyfel Cartref (yn yr 17g) a’i hail-adeiladu wedi hynny fel ffoli.
Mae lleoliad Aberlleiniog yn Llangoed Ynys Mon (SH616793) yng ngogledd orllewin Cymru.
Menter Môn a Chyngor Cymunedau Llangoed a Phenmon sydd berchen y warchodfa.
Ceir dau faes parcio cyhoeddus - y naill yn Llangoed a'r llall yn nhraeth Lleiniog. Mae'n cymryd tua 15-20 munud i gerdded o bob maes parcio i'r castell.
Menter Môn a Chyngor Cymuned Llangoed a Phenmon sy’n berchen ar y tir ac yn rhannu cyfrifoldeb am reoli’r warchodfa. Mae dau faes parcio cyhoeddus – y naill yn Llangoed a’r llall yn nhraeth Lleiniog. Mae’n cymryd tua 15-20 munud i gerdded o’r naill faes parcio i’r castell. Mae’r tir yn wastad ar y cyfan ond mae rhai llethrau isel. Mae’r llwybrau’n gallu bod yn wlyb a mwdlyd mewn mannau, yn enwedig yn y gaeaf. Nid oes toiledau ar y safle.
Mae Gwarchodfa Natur Leol Comin Llangoed a Comin Aberlleiniog yn lle naturiol a heddychlon. Mae o leaf tri math o wahanol gynefin yno.
Hwn yw prif gynefin y warchodfa. Coed collddail yw'r rhan fwyaf:
Onnen: un o brif goed y warchodfa.
Masarnen
Celyn
Collen
Helygen
Aethnen: Coeden anarferol iawn sydd wedi cael ei phlannu mewn clytiau yma ac acw.
Un afon, yr Afon Lleiniog, sydd yn rhedeg ar hyd y warchodfa.
Cribell felen melyn: arwydd mai tir fferm oedd y warchodfa ar un adeg
Llygad doli
Suran y cŵn: fe elwir hwn hefyd yn blodyn siwgwr coch gan blantos a arferai ddefnyddio ei hadau fel siwgr mewn picnic smal.
Llysiau'r cryman: Blodyn bach oren yw Oriawr y bugail. (enw Cymraeg arall ar y planhigyn)
Dyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[1]:
Ysguthan
Siff-saff: fe glywir hwn yn amlach na'i weld, yn y gwanwyn a'r haf amlaf
Coch y berllan
Dryw
Cudyll coch: yn hofran dros y caeau cyfagos i'r warchodfa y gwelir hwn amlaf.
Cigfran: fe glywir ei grawc yn aml wrth iddo hedfan dros y warchodfa i'w nyth ym Mhenmon
tarw coch??
Sgrech y coed
Ymlesgwr coed??
Telor coed??
Tylluan wen:fe welir hon yn hela yn y caeau o gwmpas y warchodfa.
Chwilen fai Mae modd gweld y chwilen yn mis Mai a Mehefin
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.