Arf a ddefnyddir i saethu taflegryn megis bwled yw gwn neu ddryll (lluosog: "gynnau"). Gallant fod o amryw o feintiau: yn ddigon bach i'w ddal mewn un llaw, neu'n ddigon mawr i danio taflegryn a all suddo llong ryfel.

Thumb
Pistol (math o wn bychan) o'r enw 'SIG Sauer P220'.

Gelwir gwn sy'n defnyddio tanwydd i'w danio yn arf tân. Mae pistolau, rifolferi, a reifflau i gyd yn arfau tân. Gelwir drylliau y defnyddir gydag un llaw yn llawddrylliau.

Geirdarddiad

Mae'n fwy na thebyg mai enw Norwyeg am ferch, Gunnhildr, oedd tarddiad y gair 'gwn', ac roedd yn arferiad enwi gynnau ar ôl merched tan yn ddiweddar, a hynny mewn sawl iaith e.e. Mons Meg (15c) a Big bertha(Ail Ryfel Byd).[1] Mae tarddiad y gair gunnrhildr yn filwrol ei natur gyda gunnr a hildr yn golygu rhyfel mewn Norwyeg. Ceir un o'r cofnodion cyntaf o'r gair yng Nghofnodion arfau Castell Windsor yn 1330, sef gwn o'r enw Domina Gunilda, erfyn eitha mawr, o fath balista: "Una magna balista de cornu quae vocatur Domina Gunilda." (Balista enfawr o Gernyw, o'r enw "Lady Gunilda".)

Thumb
Mae'r lliwiau tywyll yn cyfleu nifer uchel o ynnau y pen. Er enghriafft, mae'r nifer o ynnau yn y gwledydd canolynol fel a ganlyn: UDA: 113 gwn am bob 100 o bobl; Irac: 32; Mecsico: 15; cyfartaledd holl wledydd y byd: 10; gwledydd Prydain: 6; Tiwnisia: .1. Gweler: Small Arms Survey 2007.[2]

Y cofnod cyntaf o wn bychan, sef yr ystyr modern i'r gair, yw hwnnw gan Chaucer: The Hous of Fame (c.1384):

Went this foule trumpes soun As swifte as pelet out of gonne Whan fire is in the poudre ronne. (Went this foul trumpet sound As swift as a pellet out of a gun when fire is running in the powder.)

Hanes

Y ddyfais cyntaf y gellir rhoi'r gair 'gwn', sef erfyn a ddefnyddiai bowdwr gwn i yrru ei daflegryn (saeth) oedd y math a ddyfeisiwyd yn Tsieina tua 1,000 Ô.C.[3] Roeddent wedi dyfeisio powdwr gwn tua thri chan mlynedd cyn hyn, a hynny drwy ymchwil y 'gwyddonwyr' cynnar i alcemi.[4][5][6]

Niferoedd gynnau gan sifiliaid

Mae nifer y gynnau a gedwir gan sifiliaid gwledydd y byd yn amrywio'n fawr, gyadg Unol Daleithiau America ac Alaska ymhlith yr uchaf.

Yr Unol Daleithiau yw'r unig wlad lle mae nifer y gynnau'n uwch na nifer y bobl h.y. mae gan bob cant o bobl yr UD gyfartaledd o 112 o ynnau. Yn y pegwn arall, mae'r nifer lleiaf o ynnau yn Tiwnisia, sef un gwn gan bob mil o bobl (.1 gwn rhwng pob 100). Un o'r ffactorau sy'n cyfri am hyn yw cyfoeth y wlad, gyda gwledydd cyfoethog (o ran arian) yn uwch na gwledydd tlawd.[2][7][8]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.