From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Jerusalem yn gerdd gan William Blake o ragair i'w gerdd hir Milton A Poem in Two Books, (1808). Bellach mae'n cael ei adnabod fwyaf fel anthem wladgarol Saesneg sy'n cael ei ganu i gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Syr Hubert Parry ym 1916.
Ysbrydolwyd y gerdd gan y stori apocryffaidd fod yr Iesu ifanc, yng nghwmni Joseff o Arimathea, masnachwr tun, wedi teithio i’r hyn sydd bellach yn Lloegr ac wedi ymweld ag Ynys Wydrin yn ystod ei blentyndod. Wrth gwrs pe bai Joseff a'r Iesu wedi ymweld ag Ynys Wydrin, byddent wedi ymweld â Gwlad Haf y Cymry Brythoneg, nid Somerset y Saeson.
Mae thema’r gerdd yn gysylltiedig â Llyfr Datguddiad (adnodau 3:12 a 21:2) sy'n disgrifio'r Ail Ddyfodiad, lle mae'r Iesu'n sefydlu Jerwsalem Newydd ar y ddaear. Bu Cristionogion am amser maith yn defnyddio'r enw Jerwsalem fel moes am y Nefoedd, lle llawn cariad, dedwyddwch a hedd.
Mae'r dehongliad symlaf o'r gerdd, yn awgrym byddai ymweliad gan yr Iesu wedi creu nefoedd ar y ddaear yn Lloegr am gyfnod byr, byddai'n cyferbyniad i Felinau Tywyll Satanaidd y Chwyldro Diwydiannol. Gydag ysbryd brawdgarwch Cristionogol byddai modd ail greu'r nefoedd eto ar diroedd Lloegr. Y dehongliad yma sydd tu ôl i ddefnydd modern y gerdd yn Noson Olaf y Proms neu yn ei ddefnydd fel anthem wladgarol Seisnig. Dehongliad sy'n gwneud cam a bwriad yr awdur.
Roedd Blake yn Gristion ymroddedig a oedd yn elyniaethus i Eglwys Loegr (yn wir, i bron bob math o grefydd drefniadol). Yn ein dyddiau ni mi fyddai'n cael ei alw'n aelod o'r chwith gwleidyddol. Dylanwadwyd ar Blake gan ddelfrydau ac uchelgeisiau’r Chwyldroadau Ffrengig ac Americanaidd. Melltithiodd athrawiaeth rhesymoliaeth a materoliaeth ei oes, sef Oes yr Oleuo, am eu bod yn llesteirio'r dychymyg a gwir grefydd.
Er bod y gerdd yn fwys awgrymu bod melinau gwlân Swydd Gaerhirfryn a melinau blawd diwydiannol Llundain yn Satanaidd, nid dyna wir ergyd y gerdd. Gwir Felinau Satanaidd y gerdd yw Eglwys Loegr a'i Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi plwyf crand oedd yn cynnig dim ond ildio i'r drefn bod Duw wedi creu bonedd a gwrêng a bod angen i'r tlodion derbyn eu safle, ac ildio i'r fath drefn,[1] ac mae dulliau chwildro America a Ffrainc oedd y modd o gael gwared ohonynt i greu Jerwsalem newydd ar dir Lloegr.[2]
And did those feet in ancient time
And was the holy lamb of God
And did the countenance divine
And was Jerusalem builded here
Bring me my bow of burning gold!
Bring me my spears o'clouds unfold,
I will not cease from mental fight,
Till we have built Jerusalem
Cyfieithwyd y gerdd i'r Gymraeg gan D Miall Edwards. Yn anffodus does dim synnwyr i'r cyfieithiad parthed ystyr y gerdd Saesneg gwreiddiol.
A sangodd traed ein Harglwydd gynt
A welwyd sanctaidd Oen ein Duw
A fu ei wyneb dwyfol ef
A fu Jeriwsalem dinas Duw
Rhowch im fy mwa euraid llosg!
Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt!
Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw,
Nes codi mur Jeriwsalem
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.