gwleidydd Cymreig ac AS From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Llafur Cymreig yw Joanna Meriel "Jo" Stevens[1] (ganwyd 6 Medi 1966)[2] sydd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers etholiad cyffredinol 2024.[3] Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Caerdydd Canolog yn etholiad cyffredinol Mai 2015.[4]
Jo Stevens AS | |
---|---|
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 5 Gorffennnaf 2024 | |
Rhagflaenydd | David T. C. Davies |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru | |
Yn ei swydd 7 Hydref 2016 – 27 Ionawr 2017 | |
Rhagflaenydd | Paul Flynn |
Olynydd | Christina Rees |
Cyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol | |
Yn ei swydd 13 Ionawr 2016 – 6 Hydref 2016 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Aelod Seneddol dros Canol Caerdydd | |
Yn ei swydd 7 Mai 2015 – 30 Mai 2024 | |
Rhagflaenydd | Jenny Willott |
Olynydd | cafodd ei diddymu |
Mwyafrif | 4,981 (12.9%) |
Aelod Seneddol dros Dwyrain Caerdydd | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 4 Gorffenaf 2024 | |
Rhagflaenydd | etholaeth newydd |
Mwyafrif | 9,097 (23.3%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Abertawe, Cymru | 6 Medi 1966
Plaid wleidyddol | Llafur |
Alma mater | Prifysgol Manceinion Prifysgol Fetropolitan Manceinion |
Gwefan | jostevens.co.uk |
Ganwyd Stevens yn Abertawe a magwyd yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.[5]
Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a cwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.[6]
Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobl gyda Thompsons Solicitors.[5]
Etholwyd Stevens fel Aelod Seneddol dros ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro y deiliad Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott.[4]
Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe'i hapwyntiwyd yn cyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.
Yn ad-drefniant mis Hydref 2016 yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid daeth yn Ysgrifennydd Cymru cysgodol.[7] Ymddiswyddodd ar 27 Ionawr 2017 mewn protest am fod Corbyn yn gorfodi ASau Llafur i bleidleisio o blaid Erthygl 50.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.