Paul Flynn

gwleidydd Cymreig ac AS From Wikipedia, the free encyclopedia

Paul Flynn
Remove ads

Gwleidydd o Gymru oedd Paul Philip Flynn (9 Chwefror 193517 Chwefror 2019)[1] a fu'n Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Plaid Lafur o 1987 hyd ei farwolaeth. Yn 2016, gwasanaethodd am gyfnod byr fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru ac Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin. Yn 81 oed, daeth yr AS hynaf mewn dros ganrif i ddal swydd yn y cabinet cysgodol.[2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Ffeithiau sydyn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Arweinydd ...
Remove ads

Bywyd cynnar ac addysg

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ac roedd ei rieni o dras Gymreig a Gwyddelig. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Sant Illtyd, ysgol ramadeg Gatholig yng Nghaerdydd. Yn 1955 aeth i weithio fel fferyllydd yn y diwydiant dur tan 1983. Daeth yn ymchwilydd ar gyfer Llew Smith, Aelod Senedd Ewrop yn 1984.[3]

Gyrfa wleidyddol

Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol yn ei 30au hwyr pan wasanaethodd ar Gyngor Dinas Casnewydd rhwng 1972 ac 1981 ac ar Gyngor Gwent rhwng 1974 ac 1982. Cystadlodd yn aflwyddiannus yn etholaeth Dinbych yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974.[3], lle daeth yn drydydd.

Fe'i etholwyd i'r Tŷ'r Cyffredin dros etholaeth Gorllewin Casnewydd (etholaeth seneddol) yn Etholiad Cyffredinol 1987 gan guro y Ceidwadwr Mark Robinson a oedd wedi ennill yn annisgwyl yn Etholiad 1983. Enillodd gyda mwyafrif o 2,708 pleidlais ac arhosodd yn aelod seneddol dros yr etholaeth hyd ei farwolaeth.[4]

Ar 30 Mehefin 2016, safodd Flynn dros dro ar feinciau blaen y Blaid Lafur fel Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin yn dilyn ymddiswyddiad Chris Bryant, cyn penodwyd unrhyw un i'r swydd yn barhaol.[5] Ar 2 Gorffennaf 2016, yn 81 oed, penodwyd Flynn yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad deiliad y swydd Nia Griffith ac yna pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd Llafur Jeremy Corbyn am nad oedd unrhyw wleidydd cymwys arall yn fodlon cymryd y swydd.[6] Ar 6 Hydref 2018, apwyntiwyd Jo Stevens yn ei le fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol a Valerie Vaz fel Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin.

Daliadau gwleidyddol

Roedd Flynn yn weriniaethwr ac yn 1996 gosododd fesur i ddiddymu'r frenhiniaeth drwy refferendwm.[7] Roedd yn wrthwynebydd ers llawer dydd o ynni niwclear, ac yn enwedig pwerdy newydd Hinkley Point C yr ochr draw i Fôr Hafren o'i etholaeth.[8][9]

Yn Nhachwedd 2017, datganodd Flynn y dylai Donald Trump gael ei arestio am annog casineb hiliol petai'n ymweld a'r DU.[10]

Ymgyrchodd Flynn dros gyfreithloni cannabis.[11] ac yn Awst 2017 dywedodd yn Nhy'r Cyffredin: "I would call on people to break the law. To come here and use cannabis here and see what happens".[12][13]

Galwodd Flynn ar Theresa May i addo ail refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd fod ail-feddwl bob amser yn well na meddyliau cyntaf. Atebodd May i'w alwad drwy ddweud ei fod "out of the question".[14]

Roedd Flynn yn feirniadol i'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, gan ddadlau y dylid disodli'r cynllun treuliau seneddol gyda lwfans cyfradd sefydlog yn dibynnu ar bellter yr etholaeth o San Steffan. Roedd yn honni fod y cynllun presennol yn rhy fiwrocrataidd ac yn cymryd gormod o amser.[15]

Sylwadau Philip Hammond

Ym mis Medi 2012 cafodd ei wahardd o siambr Tŷ'r Cyffredin am bum niwrnod wedi iddo gyhuddo'r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond o ddweud celwydd am y sefyllfa filwrol yn Affganistan.[16]

Bwriad i ymddeol

Yn Hydref 2018, cyhoeddodd Flynn y byddai'n sefyll lawr fel AS cyn yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd ei arthritis rhiwmatoid.[13] Datgelodd ei fod yn gaeth i'r gwely a byddai'n sefyll lawr "cyn gynted a phosib" ond fod ganddo awydd cynrychioli'r ddinas cyn hired a phosib. "Mae cost is-etholiad yn anferth. Rwy eisiau osgoi hynny os gallai". Dywedodd y byddai'n mynd i Dŷ'r Cyffredin ar stretsier os oedd rhaid iddo, er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais ar fargen Brexit yn y senedd.[17] Fodd bynnag, fe oedd yr unig AS (heblaw y Llefarydd, Dirprwy Lefarwyr, cyfrifwyr ac aelodau Sinn Féin) wnaeth ddim bleidleisio yn y "bleidlais arwyddocaol" ar 15 Ionawr 2019.[18]

Remove ads

Gweithgareddau arall

Roedd Flynn yn siarad Cymraeg yn rhugl, wedi dysgu yr iaith fel oedolyn, ac roedd yn gyfrannwr cyson ar teledu a radio Cymraeg. Yn 1996, enillodd wobr 'Meinciwr Cefn y Flwyddyn' gan The Spectator', ac yn 1997 ysgrifennodd lyfr, Commons Knowledge: How to be a Backbencher.[3]

Roedd Flynn yn un o'r aelodau seneddol cyntaf i ddefnyddio'r rhyngrwyd i gyfathrebu a'i etholwyr ac enillodd Wobr Cyfryngau Newydd am ei wefan yn 2000 gan y New Statesman ,[19] a bleidleiswyd hefyd fel y wefan AS gorau ar sawl achlysur.[20] Roedd yn fabwysiadwr cynnar o CD-ROMau Hansard, ac ysgrifennodd lyfr, Dragons Led By Poodles, am yr ymgyrch ddatganoli i Gymru yn y 1990au, lle roedd yn feirniadol iawn o rhai o'i gyd-aelodau seneddol.[21]

Bywyd personol

Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Anne Harvey yn 1962, a cawsant dau blentyn, mab a merch; bu farw ei merch drwy hunan-laddiad yn 1979, yn 15 oed.[22] Ysgarodd y cwpl yn 1984 a'r flwyddyn ganlynol priododd Samantha Morgan Cumpstone, a cawsant ddau blentyn.[23]

Yn 2007 cafodd Flynn strôc bychan.[24] Bu farw ar 17 Chwefror 2019, yn 84 oed, ar ôl salwch hir. Yn dilyn y newyddion, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod Flynn yn "gawr y mudiad Llafur". Dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, fod Flynn yn "feddyliwr annibynnol oedd yn glod i'w blaid" a roedd yn "drist iawn o golli fy ffrind da iawn, Paul Flynn".[1] Talwyd teyrngedau iddo ar draws y pleidiau am ei garedigrwydd, ei onestrwydd a'i gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru.[25]

Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ar ddydd Gwener, 22 Mawrth 2019 lle roedd y galarwyr yn cynnwys Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a Jeremy Corbyn.[26]

Remove ads

Cyhoeddiadau

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads