From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Nhiwnisia yw Kasserine (Arabeg قصرين Al-Qasrayn). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ac mae'n ganolfan weinyddol y dalaith (gouvernorat) o'r un enw, sef Kasserine, am y ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria. Poblogaeth: 76,243 (2004).[1]
Ei phrif ddiwydiant yw amaethyddiaeth, ac yn enwedig tyfu a phrosesu gwair esparto i wneud papur. Mae'n ganolfan cludiant rhanbarthol. Y trefi agosaf yw Sbeitla (38 km) a Thala (tua 60 km).
Mae'r ardal o gwmpas y ddinas yn fynyddig ac yn rhan o gadwyn Dorsal Tiwnisia. Lleolir Jebel Chambi (1,544 m), mynydd uchaf y wlad, i'r gorllewin. Mae'n oer iawn yn y gaeaf a dydy eira ddim yn anghyffredin.
Ar gwr y ddinas fechan ceir safle dinas Rufeinig Cilium. Ceir adfeilion theatr a bwa buddugoliaeth yno. Yn yr Ail Ryfel Byd ymladdwyd Brwydr Kasserine rhwng yr Almaenwyr a'r Cynghreiriaid yn y mynyddoedd ger y ddinas. Llwyddodd Afrika Korps y cadfridog Erwin Rommel i gipio bwlch Kasserine o ddwylo'r Americanwyr ond fe'i cipwyd yn ôl gan y lluoedd Prydeinig wedyn.
Yn 2013, ymsefydlodd grwp o wrthryfelwyr Islamaidd ym mynyddoedd Jebel Chambi, ger Kasserine. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[2] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawritaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.