actor ac awdur sgrîn Iddewis Israeli From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Lior Raz (Hebraeg: ליאור רז; ganed 24 Tachwedd 1971) yn actor ac awdur Iddewig Israeli,[1][2] sydd fwyaf enwog am greu ac yna perfformio yn y ddrama thiler-wleidyddol-filwrol, Fauda.[3] Mae'n briod â Meital Berdah ers 2008 ac mae ganddynt dri o blant.
Lior Raz | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1971 Ma'ale Adumim |
Man preswyl | Ramat HaSharon |
Dinasyddiaeth | Israel |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, sgriptiwr, actor teledu |
Priod | Meital Berdah |
Gwobr/au | Israeli Television Academy Awards |
Gwefan | http://www.liorraz.co.il |
Ganwyd a magwyd Lior Raz yn nhref Ma'ale Adumim - dinas i'r dwyrain o Jeriwsalem ar dir Glan y Gorllewin bu'n perthyn i Gwlad yr Iorddonen nes Rhyfel 1967 ac a andebir heddiw fel rhan o Jwdea a Samaria gan yr Iddewon.
Roedd ei rieni yn rhan o'r allfudiad Iddewig o wledydd Mwslimaidd. Roedd ei dad yn wreiddiol o Irac ac yn gweithio i luoedd arfog Irael ac yna'n rhedeg meithrinfa blanhigion a'i fam o Aljeria ac yn athrawes. Roedd Lior yn siarad Arabeg gyda'i dad a'i famgu a gyda'r gweithwyr yn y feithrinfa[4]. Ar ôl ymrestru â Llu Amddiffyn Israel (yr IDF), ymunodd wirfoddol ag uned filwrol gudd Duvdevan. Yno gafodd hyfforddiant fel milwr arbenigol a chymryd rhan mewn cyrchoedd cudd[1] yn y gwrthdaro yn erbyn gwrthryfelwyr Palesteinaidd. Yn ddiweddarach, symudodd i'r Unol Daleithiau lle bu'n gweithio fel gwarchodwr i'r actor Arnold Schwarzenegger, ei wraig Maria Schreiber a Nastassja Kinski.[5]
Wedi iddo ddychwelyd i Israel, astudiodd Raz actio yn stiwdio ffilm ac actio Nissan Nativ. Yn ddiweddarach bu'n actio yn Don Juan (Theatr Gesher), 'Darganfyddiad Elijah' a bu'n perfformio yn Macbeth and The Boys.
Serennodd yn y gyfres deledu "Matay Nitnashek" yn y rôl serennu fel Miki, cymeriad a oedd yn briod â Suzi, a chwaraeir gan Yael Sharoni a gydag actorion Lior Ashkenazi, Einat Weizman a Dalit Kahan. Chwaraeodd ran Isser Harel, Pennaeth Mossad, gwasanaeth cudd Israel, yn y ffilm Operation Finale am y cyrch llwyddiannus i gipio'r Natsi, Adolf Eichmann o'r Ariannin yn 1960.
I gynulleidfaoedd tramor, mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenwr a'i ran fel 'Doron' y prif gymeriad yn y ddrama thriler Fauda am uned o filwyr cudd. Yn y gyfres mae'n chwarae rhan Kavillio Doron, mae rheolwr y mista'arvim uned gwrth-derfysgaeth.[6] Defnyddiodd ei brofiad a'i allu fel aelod o uned David ar gyfer y gyfres gan ei fod "wedi byw y bywyd yma".[7]
Cred bod llwyddiant rhyfeddol byd-eang y gyfres, hyd oed Palesteiniaid ei hunain oherwydd, ei fod yn meddwl "...the unexpected succes is due to the avoidance of black-and-white stereoptypes. The Israelis are not all good, the Palestinians are not all bad".[5]
Mae Raz yn briod â'r actores Meital Barda ac mae ganddynt dri phlentyn.9
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.