chwedl Gymraeg Canol sy'n troi o amgylch teyrnasiad Beli Mawr a'i feibion Lludd a Llefelys yn Ynys Prydain From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwedl Gymraeg Canol sy'n troi o amgylch teyrnasiad Beli Mawr a'i feibion Lludd a Llefelys yn Ynys Prydain yw Cyfranc Lludd a Llefelys (Cymraeg Canol, Cyfranc Lludd a Llevelys, sef 'Chwedl Lludd a Llefelys'). Fe'i cyfrifir yn un o'r tair chwedl frodorol yn y Mabinogi, gyda Breuddwyd Macsen a Breuddwyd Rhonabwy.
Llinellau agoriadol Cyfranc Lludd a Llefelys (Llyfr Coch Hergest, Coleg yr Iesu, Rhydychen | |
Enghraifft o'r canlynol | ffabl, Märchen, llawysgrif |
---|---|
Rhan o | Llyfr Coch Hergest |
Iaith | Cymraeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n bosibl iddi gael ei llunio tua diwedd y 12g dan ddylanwad amlwg gwaith Sieffre o Fynwy, ond mae'n tynnu ar draddodiadau hŷn o lawer yn ogystal. Cedwir y testun cyfan yn Llyfr Coch Hergest a cheir testun anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Yn ogystal fe'i ceir yn ychwanegiad i destun o un o'r cyfieithiadau Cymraeg o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy yn syth ar ôl y bennod am Ludd fab Beli Mawr yn union cyn lanio'r Rhufeiniaid ym Mhrydain. Ymddengys felly fod y chwedl yn bodoli yn ei ffurf bresennol erbyn tua 1200, ond ceir cyfeiriadau hŷn ati yng ngwaith Beirdd y Tywysogion hefyd. Yn ogystal, ceir cerdd o'r enw 'Ymarwar ["dadl"] Lludd a Llefelys' yn Llyfr Taliesin. Daw chwedl y dreigiau (gweler isod) o Historia Brittonum Nennius, ond mae'r manylion yn wahanol.[1]
Brenin y Brythoniaid yw Lludd fab Beli, a'i lys yn Llundain. Mae ei frawd Llefelys yn frenin coronog ar Ffrainc. Mae'r gyfranc (chwedl) yn ymdroi o gwmpas y Tair Gormes (gweler isod) sy'n bla ar y Brythoniaid a'r modd mae Lludd yn ymgynghori â'i frawd Llefelys yn eu cylch ac yn llwyddo i gael gwared arnynt.
Ymddengys fod y Tair Gormes hyn yn addasiad neu adlais o draddodiad a geir yn y Trioedd:
Dim ond y Coraniaid sy'n aros o'r Triawd ac mae ffigurau o fytholeg a llên gwerin wedi disodli'r pobloedd hanesyddol. Yn amlwg mae chwedl y dreigiau yn cyfateb i hanes dyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid i'r ynys, ond mae perthynas y Cawr Lledrithiol â'r Gwyddyl Ffichti yn ddirgelwch. Mae'r triawd hwn yn gymar i driawd arall sy'n ymwneud â'r 'Tri Chyfor ["llu"] a aeth o'r Ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt'.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.