From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Algeria yw Mascara neu Mouaskar (Arabeg: مـعـسـكـر), canolfan y dalaith (wilayat) o'r un enw. Mae ganddi boblogaeth o tua 150,000 (amcangyfrifiad 2008). Ystyr yr enw Arabeg 'Mascara' yw "Mam Milwyr". Mae'n un o ganolfannau mawr Berberiaid Algeria, yn gartref i lwyth y Beni Rached.
Math | dinas, commune of Algeria, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 108,587 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Bursa, Elkader, Iowa |
Daearyddiaeth | |
Sir | Mascara District |
Gwlad | Algeria |
Uwch y môr | 590 metr |
Cyfesurynnau | 35.4°N 0.13°E |
Cod post | 29000 |
Mascara oedd prifddinas yr Emir Abd El-Kader, a arweiniodd y gwrthsafiad cenedlaethol yn Algeria yn erbyn y gwladychwyr Ffrengig.
Mae'n ganolfan weinyddol a masnachol. Mae cynnyrch Mascara yn cynnwys nwyddau lledr, grawnfwyd ac olew olewydden, a gwin Mascara. Ceir cysylltiadau ffordd a rheilffordd da gyda gweddill Algeria. Mae Relizane yn gorwedd 65 km i'r gogledd-ddwyrain, Sidi Bel Abbes yn 90 km i'r de-orllewin, Oran yn 105 km i'r gogledd-orllewin a Saïda yn 80 km i'r de.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.