Cyfarwyddwr ffilmiau a Chymro o dras Cernywaidd oedd Paul Turner (30 Rhagfyr 1945 – 1 Tachwedd 2019).[1][2] Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn, ffilm a gafodd ei henwebu am Oscar.
Paul Turner | |
---|---|
Ganwyd | 30 Rhagfyr 1945 Cernyw |
Bu farw | 1 Tachwedd 2019 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Hedd Wyn |
Bywgraffiad
Ganwyd Turner yng Nghernyw. Ar ôl cyfnod o wneud astudiaethau ffilm, gweithiodd fel dyn camera a thorrwr ffilm. O 1971 tan 1982, gweithiodd fel golygydd rhaglenni i'r BBC. Dysgodd Gymraeg yn ystod y cyfnod yma. Fe weithiodd ar raglenni fel cyfres ddrama John Hefin, The Life and Times of David Lloyd George (1981). Yn yr un flwyddyn cynhyrchodd ei waith annibynnol cyntaf sef Trisgel, ffilm yn ôl David Berry sydd yn "ramant uchelgeisiol, di-ddeialog sy'n drwch o draddodiad a mytholeg".
Sefydlodd y cwmni cynhyrchu Teliesyn ar y cyd gyda Colin Thomas. Yn 1982/3 enillodd y cwmni newydd gomisiwn am drama-ddogfen gan S4C o'r enw Chwedlau Serch yn ogystal â chyfres Saesneg a Chymraeg gefn-wrth-gefn i'r BBC o’r enw Arswyd y Byd / Tales From Wales.
Yn 1984, cyfarwyddodd Turner ddrama sengl awr o hyd ar gyfer S4C o’r enw Wil Six (drama yn adrodd atgofion dyn o'i amser yn fachgen ifanc mewn ysgol wledig), yn ogystal â'r drasiedi lesbiaidd Tra Bo Dwy a'r drama deledu Dihirod Dyfed.
Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn yn 1992, y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor orau. Aeth ymlaen i ennill llu o wobrau rhyngwladol eraill gan ddod â chlod a bri i sinema Cymraeg.
Aeth ymlaen i gyfarwyddo tair ffilm hyd llawn arall gyda'i gwmni cynhyrchu Pendefig - Cwm Hyfryd (1993), Dial (1995) a Porc Pei (1998) - ffilm a gafodd ei throi mewn i gyfres ddrama lwyddiannus ar S4C.[3]
Bywyd personol
Ei ail wraig oedd yr actores o Gymraes Sue Roderick.
Bu farw yn ei gartref ar fore 1 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Caerdydd a Morgannwg ar 18 Tachwedd wedi ei ddilyn gyda dathliad o'i fywyd yn y Manor House, Penarth. [4]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.