From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymladdwyd Rhyfel y Crimea o Hydref 1853 hyd at Chwefror 1856)[1][2] rhwng Ymerodraeth Rwsia a chynghrair o wledydd gan gynnwys Ail Ymerodraeth Ffrainc, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Brenhiniaeth Sardinia. Ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel ar 27 Mawrth, 1854. Roedd Ymerodraeth Awstria yn niwtral, ond chwaraeodd ran blaenllaw a dylanwadol yn y rhyfel. Mae llyfrau hanes yn nodi mai'r gynghrair a "enillodd" y rhyfel.
Newidiwyd y rhan hon o Ewrop gan y rhyfel oherwydd symud pobloedd, sefydlu mudiadau cenedlaetholgar a thrwy greu ffiniau i wledydd megis Wcráin, Moldofa, Bwlgaria, Romania, Gwlad Groeg, Twrci, Aserbaijan, Armenia, Georgia, a mannau fel Penrhyn y Crimea a'r Cawcasws.[3]
Gellir cloriannu Rhyfel Crimea mewn un gair: "methiant" - o ran meddygaeth, tacteg brwydro a'r niferoedd a laddwyd, ond i'r Gynghrair, llwyddiant oedd y cyfan - yn enwedig gan iddynt lwyddo i ddifetha bron y cyfan o lynges Rwsia a chynnal gwarchae forwrol yn y Môr Baltig. Mae rhai'n ei alw y rhyfel "modern" cyntaf oherwydd y defnydd o dechnoleg newydd ac effeithiol: y rheilffyrdd a'r teligraff.[4] Serenodd Betsi Cadwaladr, Florence Nightingale a Mary Seacole, drwy dorri dir newydd yn eu gofal o gleifion. Am y tro cyntaf yn hanes rhyfeloedd, cofnodir llawer ohono mewn ffotograffau a chofnodion eraill.
Cafwyd brwydrau mawr yn Alma (20 Hydref, 1854), Balaclava (25 Hydref ac Inkerman (5 Tachwedd) gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'r Gatrawd Gymreig yn allweddol ynddynt.
Yng Nghymru enynnodd y rhyfel ddiddordeb mawr, a cynyddodd gwerthiant papurau newydd. Gwelwyd llawer o heddychwyr a chydwladolwyr fel Henry Richard yn gwrthwynebu'r rhyfel. Dechreuwyd galw Bwlch y Gorddinen, bwlch i'r gogledd o Flaenau Ffestiniog, yn 'Fwlch y Crimeia' i gofio'r rhyfel, wedi gwaith i wella'r ffordd yn ystod y 1850au.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.