tirfeddianwr Cymreig ac AS o Feirionnydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Tirfeddiannwr ac Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd oedd Syr Robert Williames Vaughan, 2il Farwnig (29 Mawrth 1768 - 23 Ebrill 1843).[1]
Robert Williames Vaughan | |
---|---|
Ysgythriad mezzotint o Robert Vaughan gan Charles Turner; 1833. | |
Ganwyd | 29 Mawrth 1768 Hengwrt |
Bu farw | 23 Ebrill 1843 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr |
Tad | Robert Howel Vaughan |
Plant | Robert Williams Vaughan |
Ef oedd mab hynaf Syr Robert Hywel Vaughan, Barwnig 1af, o'r Hengwrt, Llanelltyd, Meirionnydd ac Anne merch Edward Williames o Ystumcolwyn, Sir Drefaldwyn. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen yn 1787. Etifeddodd ystadau 12 mil erw ei dad yn y Nannau, Llanfachreth a Hengwrt, Llanelltyd.
Etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd ym 1792, gan ddal ei afael ar y sedd yn barhaus trwy 14 Senedd hyd at 1836. Er gwaethaf ei yrfa hir yn y senedd cododd i siarad yn y tŷ dim ond unwaith. Yr oedd yn clywed drafft yn dyfod ato trwy ffenestr oedd yn agored o'r tu ôl iddo, a gofynnodd i'r llefarydd i gael rhywun i'w cau.[2] Penodwyd ef yn Uchel Siryf Sir Feirionnydd am dymor 1837-38. Priododd Anna Maria, merch Syr Roger Mostyn, 5ed Barwnig, o Fostyn, Sir y Fflint a Gloddaeth, Sir Gaernarfon.
Syr Robert oedd yr uchelwr Cymreig olaf i gyflogi Bardd a Thelynor Llys [3]
Bu farw ym 1843 a'i gladdu yn Eglwys y Plwyf, Llanfachreth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.