cwmni solar o'r UDA From Wikipedia, the free encyclopedia
Tesla Energy Operations, Inc. yw is-adran ynni glân Tesla, Inc. sy'n datblygu, cynhyrchu, gwerthu a gosod systemau cynhyrchu ynni solar ffotofoltäig, cynhyrchion batris storio ynni ac ati i gwsmeriaid.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni, brand, busnes, sefydliad, corfforaeth |
---|---|
Gwlad | UDA |
Rhiant sefydliad | Tesla |
Cynnyrch | Tesla Powerpack, Powerwall, Tesla Solar Roof, Panel solar, llechi solar |
Pencadlys | Fremont |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.tesla.com/de_de/energy |
Sefydlwyd yr adran ar 30 Ebrill 2015, pan gyhoeddodd Prif Swyddog Gweithredol Tesla sef Elon Musk, y byddai'r cwmni'n cymhwyso'r dechnoleg batri a ddatblygodd ar gyfer ceir trydan i system storio ynni cartref o'r enw Powerwall. Yn Nhachwedd 2016, prynodd Tesla SolarCity, mewn cytundeb US$2.6 biliwn, gan ychwanegu cynhyrchu ynni solar at fusnes Tesla Energy. Roedd y fargen hon yn ddadleuol; ar adeg y caffaeliad, dywedwyd fod SolarCity yn wynebu problemau ariannol.
Mae cynhyrchion cynhyrchu pŵer presennol y cwmni'n cynnwys paneli solar (a weithgynhyrchir gan gwmnïau eraill ar gyfer Tesla), to solar Tesla (Tesla Solar Roof; system llechi solar), a gwrthdröydd solar Tesla. Mae'r cwmni hefyd yn gwneud system storio ynni ar raddfa fawr o'r enw Megapack . Yn ogystal a hyn, mae Tesla'n datblygu meddalwedd i gefnogi ei gynnyrch.
Yn 2022, defnyddiodd y cwmni systemau ynni solar a oedd yn gallu cynhyrchu 348 megawat (MW), cynnydd o 1% dros 2021, a defnyddio 6.54 gigawat-oriau (GWh) o gynhyrchion batris storio ynni, cynnydd o 62% dros 2021. Cynhyrchodd yr adran $3.91 biliwn mewn refeniw ar gyfer y cwmni yn 2022, cynnydd o 40% dros 2021.
Wrth i Tesla, Inc. ddatblygu batris ar gyfer ei fusnes ceir trydan, dechreuodd y cwmni hefyd arbrofi gyda defnyddio batris ar gyfer storio ynni. Gan ddechrau yn 2012, gosododd Tesla becynnau batri prototeip (a elwir yn Powerpack yn ddiweddarach) yn ffatrioedd rhai o'u cwsmeriaid diwydiannol.[1] Yn Nhachwedd 2013, cyhoeddodd Tesla y byddai'n adeiladu Giga Nevada, ffatri i gynhyrchu batris lithiwm-ion.[2][3]
Cyflwynwyd brand Tesla Energy ar 30 Ebrill 2015 wrth i'r Prif Swyddog Gweithredol Elon Musk gyhoeddi y byddai'r cwmni'n cymhwyso ei dechnoleg batri i system storio ynni cartref o'r enw Powerwall. Adeiladwyd pum cant o unedau peilot yn Ffatri Tesla Fremont a'u gosod yn ystod 2015. Dechreuodd ffatri Giga Nevada gynhyrchiad cyfyngedig o Powerwalls a Powerpacks yn chwarter cyntaf 2016[4][5] gan ddefnyddio celloedd batri a gynhyrchwyd mewn mannau eraill, a dechreuodd mas-gynhyrchu'r celloedd yn Ionawr 2017.[6] Nid yw'r dechnoleg batri hon yn arloesi o'r hyn sydd ar gael yn y farchnad ond, yn ôl Musk, cynigiodd y cwmni gynnyrch sy'n hawdd ei osod, yn fwy deniadol, yn llai costus a gellir ei drwsio a'i uwchraddio'n hawdd hefyd.[7]
Sefydlodd y brodyr Peter a Lyndon Rive, cefndryd Prif Swyddog Gweithredol Tesla, Elon Musk, SolarCity yn 2006 i werthu a gosod systemau cynhyrchu ynni solar yn ogystal â chynnyrch a gwasanaethau cysylltiedig eraill i gwsmeriaid.[8] Awgrymodd Musk y syniad o greu cwmni solar i'r brodyr Rive ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel cadeirydd SolarCity.[9]
Ym Mehefin 2014, ymrwymodd SolarCity i adeiladu ail ffatri, o'r enw Giga Efrog Newydd yn Buffalo, Efrog Newydd, a fyddai'n adeiladu celloedd ffotofoltäig ac a fyddai'n deirgwaith maint y ffatri weithgynhyrchu ffotofoltäig fwyaf yn yr Unol Daleithiau.[10]
Erbyn 2016, roedd SolarCity wedi gosod systemau ynni solar ar gyfer dros 325,000 o gwsmeriaid ac roedd yn un o'r cwmnïau gosod paneli a llechi solar mwyaf yn yr Unol Daleithiau.[11]
Ar y cyntaf o Awst 2016, cyhoeddodd Tesla y byddai'n caffael SolarCity am $2.6 biliwn.[12] Cenhadaeth Tesla ers ei sefydlu yw "cyflymu trawsnewid y byd i ynni cynaliadwy" [13] Dywedodd Musk y byddai'r pryniant yn hyrwyddo cenhadaeth Tesla trwy helpu'r byd i symud o economi hydrocarbon mwyngloddio a llosgi tuag at economi trydan solar. [14] Arweiniodd y cyhoeddiad hwn at ostyngiad o fwy na 10% ym mhris stoc Tesla.[15]
Cymeradwywyd y cynnig yn Awst 2016.[16][17] Pleidleisiodd dros 85% o gyfranddalwyr Tesla a SolarCity dros y caffaeliad[18][19] gan gwbwlhau'r cytundeb ar 21 Dachwedd 2016.
Mae model busnes Tesla Energy yn seiliedig ar wneud eu systemau "y gost leiaf yn yr Unol Daleithiau." Yn 2021 roedd y cwmni'n gwerthu systemau $2 y wat ar gyfer paneli solar cyn nawdd y treth ffederal.[20] Dywed Tesla fod y model busnes wedi'i alluogi trwy ddileu costau gwerthu o ddrws i ddrws, hysbysebu, a phrydlesu.[21][22] Mae'r newid yn y model busnes wedi cael ei feirniadu am lai o gymorth i gwsmeriaid. Dywedodd cwsmeriaid eu bod yn aros wythnosau am atebion i e-byst a'u bod wedi profi oedi hir i gamau gweinyddol gael eu cwblhau.[23]
Yn 2022, gwerthodd y cwmni systemau ynni solar a oedd yn gallu cynhyrchu 348 megawat (MW), cynnydd o 1% dros 2021, a 6.54 gigawat-awr (GWh) o ynni batri, sef cynnydd o 62% dros 2021. Codwyd ffatri Megapack y cwmni yn Lathrop, California, a (cyhoeddwyd hyn yn Hydref 2021).[24][25][26] Cynhyrchodd y ffatri $3.91 biliwn o refeniw ar gyfer y cwmni yn 2022, cynnydd o 40% dros 2021.[27]
Mae Tesla Energy'n datblygu, yn adeiladu, yn gosod ac yn gwerthu systemau cynhyrchu ynni solar, cynnyrch storio ynni batri, yn ogystal â chynnyrch a gwasanaethau cysylltiedig eraill i gwsmeriaid preswyl, masnachol a diwydiannol.
Mae Tesla Energy yn gwerthu ac yn gosod paneli solar traddodiadol ar doeau presennol, y mae'r cwmni'n eu galw'n "systemau solar ôl-osod" (retrofit solar systems) yn hytrach na Llechi Solar.[28] Yn wahanol i gynnyrch eraill y cwmni, nid yw Tesla Energy yn adeiladu ei baneli solar ei hun. Ers Ebrill 2022 roedd y cwmni'n defnyddio paneli solar brand Tesla a adeiladwyd o dan gontract gan QCells.[29] Yn flaenorol, defnyddiodd Tesla baneli Panasonic fel rhan o bartneriaeth rhwng y cwmnïau nes i Panasonic adael y busnes solar yn Ionawr 2021.[30]
Mae'r cwmni'n canolbwyntio'n bennaf ar gwsmeriaid preswyl sy'n prynu'r system gydag arian parod neu gyllid. Mae Tesla Energy hefyd yn cynnig systemau i gwsmeriaid masnachol yng Nghaliffornia.
Mae Tesla Energy'n cynhyrchu, gosod a gwerthu cynnyrch llechi solar y mae'n ei alw'n "Tesla Solar Roof". Mae llechi solar yn baneli solar bach sy'n ffurfio arwyneb y to cyfan ac yn edrych fel llechi neu deils to.[31] Mae'r cwmni'n honni bod To Solar yn costio llai na gosod to newydd gyda phaneli solar[32][33] a bod y gwydr tymherus y gwneir y teils ohono yn fwy gwydn na theils to safonol.[34] Dadorchuddiwyd y cynnyrch gyntaf yn Awst 2016, ond dim ond ym Mawrth 2020 y llwyddodd Tesla i ddechrau masgynhyrchu'r To Solar.[35]
Mae adroddiad a ryddhawyd ym Mawrth 2023 yn amcangyfrif bod Tesla wedi gosod tua 3,000 o doeau solar yn yr Unol Daleithiau ers lansio'r cynnyrch yn 2016, ymhell o dan y rhagamcanion gwerthiant cychwynnol.[36] Nodwyd mewn adroddiadau eraill bod perchnogion tai sy'n cofrestru ar gyfer y To Solar yn aml yn cael eu rhoi ar restrau aros hir.[37]
Yn Ionawr 2021, cyflwynodd y cwmni ei wrthdröydd (inverter) solar ei hun. Dywed y cwmni fod y Tesla Solar Inverter yn adeiladu ar y dechnoleg a ddatblygodd ar gyfer y Powerwall a gwrthdroyddion o fewn ceir trydan. Fel y Powerwall a cheir Tesla, mae'r gwrthdröydd solar yn gallu derbyn diweddariadau dros y we yn otomatig.[38] Rhoddodd EnergySage, gwefan-canllaw prynwyr solar, sgôr o “dda iawn” i’r Tesla Solar Inverter, gan ganmol y ddyfais ond gan nodi hefyd bod y raddau effeithlonrwydd a'r gwarant o 12.5 mlynedd ar ei hôl hi o gymharu ag arweinwyr y diwydiant.[38][39]
Erbyn 2023 fodd bynnag cyflwynwyd fersiwn newydd o'r gwrthdröydd mewn pedwar maint: 3.8 kW, 5 kW, 5.7 kW, a 7.6 kW AC. Mae gan bob un effeithlonrwydd o 98%.[40]
Mae Powerwall+ Tesla, a gyflwynwyd yn Ebrill 2021, yn cynnwys Gwrthdröydd Solar Tesla integredig.[41]
Mae'r Tesla Powerwall yn ddyfais storio ynni batri lithiwm-ion y gellir ei hailwefru ar gyfer storio ynni yn y cartref. Gall Powerwall 2 storio 13.5 cilowat-awr ar gyfer hunan-ddefnydd solar, symud llwyth amser defnydd, a phŵer wrth gefn pan eith y grid i lawr.[42]
Gall system Powerwall gynnwys hyd at 10 Powerwall a gellir cyfuno'r Powerwall + gyda'r Powerwalls traddodiadol. Mewn ardaloedd lle mae codau adeiladu'n caniatáu, gall hyd at dri o'r dyfeisiau hyn gael eu "pentyrru" blaen wrth gefn i gymryd llai o le.
Mae'r Tesla Megapack yn ddyfais storio ynni batri lithiwm-ion y gellir ei hailwefru ar raddfa fawr ac a gaiff ei defnyddio gan fusnes neu gwmni cyfleustodau trydan megis Octopus.
Yn 2023 gallai'r Megapack storio hyd at 3 megawat-awr ac fe'i hadeiladir fel arfer fel rhan o orsaf bŵer storio batri, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer llyfnhau cyflenwad ynni adnewyddadwy, cymorth foltedd, cynhwysedd, cefnogaeth, microgridiau, rheoleiddio amledd, a rheoli foltedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.