Adeiladu

From Wikipedia, the free encyclopedia

Adeiladu
Remove ads

Adeiladu yw'r broses o godi adeilad, pont, ffordd neu isadeiledd arall. Mae cynhyrchu'n wahanol, ac yn broses lle mae sawl gwrthrych tebyg yn cael ei greu; ond fel arfer, mewn adeiladwaith, un prynnwr sydd, ac un peth a gynhyrchir, a hynny'n aml yn digwydd yn y fan a'r lle yn hytrach na mewn ffatri.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Codi fflatiau Doc Fictoria yng Nghaernarfon; Hydref 2007.
Thumb
Craeniau'r adeiladwyr wrth iddynt godi adeilad y BBC yng Nghaerdydd; Ionawr 2017.

Mae adeialdu'n rhan bwysig o economi pob gwlad, ac yn dod a chanran uchel o'r cynnyrch mewnwladol crynswth (neu'r GDP): rhwng 6 a 9%, fel arfer.[1] Mae'r broses o adeiladu'n dilyn yr un camau: y cwsmer yn gweld yr angen ac yn canfod ffynhonnell o arian, comisiynu pensaer i wneud y cynlluniau a goruchwylio'r gwaith adeiladu, penodi cwmni o adeiladwyr i godi'r adeilad ac yn olaf - trosglwyddo'r adeilad gorffenedig i'r cwsmer. Mae cwmnïau mawr yn cyflogi arebnigwyr eu hunain e.e. bricwyr, trydanwyr, plymwyr, saeri, peintwyr.[2][3]

Thumb
Codi 'Pont Eads' dros Afon Mississippi ger St. Louis, Missouri, tua 1874.

Ceir llawer o reolau er mwyn sicrhau diogelwch a safon, a goruchwylir yr holl waith, fel arfer, gan adran gynllunio a rheoleiddio, o fewn y sir. Yn ogystal â hyn, ceir llawer o reolau Ewropeaidd, gwladol a sirol sy'n sicrhau hefyd fod yr adeilad yn cadw ei wres, yn lleihau'r impact ar yr amgylchedd e.e. yn cynhyrchu ei ynni (paneli solar, cyfnewidwyr gwres geo) a'i ddŵr ei hun (ffynnon), neu'n cynnwys uned trin carthffosiaeth a chasglu, ailgylchu a phuro dŵr ar y safle.[4]

Mae tair sector: adeiladau (preswyl a masnachol), isadeiledd (ffyrdd, carffosiaeth, pontydd) a diwydiannol (ffatrioedd, purfeydd olew, ffermydd o felinau gwynt).

Remove ads

Gwariant gwledydd y byd yn y maes hwn

Rhagor o wybodaeth Economi, Gwariant ar adeiladwaith yn 2015 (mewn biliynau o USD. ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads