Airbus

cwmni awyrofod From Wikipedia, the free encyclopedia

Airbus
Remove ads

Cwmni gwneud awyrennau Ewropeaidd yw Airbus S.A.S (Société par actions simplifiée). Mae'n is-gwmni ac yn perthyn i'r consortiwm EADS (European Aeronautic & Defence Systems), ac mae'n cynhyrchu tua hanner awyrennau teithio mawr y byd.

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Thumb
Singapore Airlines Airbus A380.
Thumb
Airbus A 330-200 Air Seychelles

Cyflogir tua 57,000 o bobl yn yr Almaen, Ffrainc, y Deyrnas Unedig a Sbaen, gan gynnwys ffatri awyrennau Airbus UK, Brychtyn. Ymhlith yr awyrennau y mae wedi eu cynhyrchu neu yn eu cynhyrchu ar hyn o bryd mae:

  • A300
  • A310
  • A320
  • A330
  • A340
  • A350
  • A380; yr awyren deithwyr fwyaf yn y byd

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Airbus y byddai'n torri 15000 o swyddi, llawer ohonynt ym Mrychdyn.[1]

Remove ads

Gweithwyr yn y prif safleoedd

Thumb
British Airways Airbus A319.
 Safle ¹   Gwlad   Gweithwyr 
Toulouse
(Toulouse, Colomiers, Blagnac)
Ffrainc 16,992
Hamburg
(Finkenwerder, Stade, Buxtehude)
Yr Almaen 13,420
Brychdyn, Sir y Fflint Cymru 5,031
Bryste (Filton) Lloegr 4,642
Bremen Yr Almaen 3,330
Madrid (Getafe, Illescas) Sbaen 2,484

(Data 31 Rhagfyr, 2006)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads