Ares

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ares
Remove ads

Duw rhyfel ym mytholeg Roeg oedd Ares (Hen Roeg: Ἄρης). Roedd yn un o'r Deuddeg Olympiad ac yn fab i Zews a Hera.[1] Mewn gwirionedd roedd yn dduw ffyrnigrwydd a chreulondeb rhyfel, tra'r oedd ei hanner chwaer, Athena, yn dduwies strategaeth mewn rhyfel. Mae'n cyfateb i'r duw Mawrth yn y traddodiad Rhufeinig.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...
Thumb
Cerflun o Ares o Fila Hadrian

Ei gymdeithion mewn rhyfel oedd Deimos, "dychryn", a Phobos "ofn", yn ôl un chwedl ei feibion oeddynt, yn deillio o'i garwriaeth ag Aphrodite. Roedd Eris, duwies anghydfod, yn chwaer iddo. Yn ôl un chwedl, roedd ganddo fab, Cycnus (Κύκνος), a geisiodd adeiladu teml a phenglogau ac esgyrn teithwyr yr oedd wedi eu lladd.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads