Australopithecus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Genws o ddynolion a esblygodd yn nwyrain Affrica tua 4 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw Australopithecus ac a ddaeth i ben tua 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw o ddwy filiwn o flynyddoedd, ymddangosodd sawl rhywogaeth gan gynnwys: Australopithecus afarensis, A. africanus, A. anamensis, A. bahrelghazali, A. deyiremeda (argymhelliad yn unig), A. garhi, ac A. sediba..
Ystyr y gair, a fathwyd yn 1925 gan yr anthropolegydd Raymond A. Dart, yw ‘epa deheuol’ (Lladin austrālis ‘deheuol’ + Hen Roeg píthēkos (πίθηκος) ‘epa’).
Chwaraeodd rhywogaethau o Australopithecus le pwysig yn esblygiad bodau dynol; yn wir, o'r Australopithecus y datblygodd y genws Homo, oddeutu 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Rhain oedd y dynolion cyntaf lle gwelir ynddynt y gennyn hwnnw sy'n galluogi niwronau hir a chryf i dyfu o fewn yr ymennydd, sef yr SRGAP2.[1] Felly, trodd yr australopith yn Homo (e.e. Homo habilis) tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl ac yna'n fodau dynol modern (H. sapiens sapiens).[2]
- Map o'r safleoedd lle cafwyd hyd i ffosiliau o Australopithecus
- Adluniad o Australopithecus afarensis, un o'r genws Australopithecus
- Penglog wreiddiol ‘Mrs. Ples’, benyw A. africanus
- ‘Lucy’, un o sgerbydau enwoca'r byd; A. afarensis
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads