Bahrain
gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad Arabaidd, fechan yng Ngwlff Persia yw Teyrnas Bahrein neu Bahrein (Arabeg: مملكة البحرين
Mamlakat al-Baḥrayn). Mae'n un o wledydd y Dwyrain Canol a hefyd yn rhan o orllewin Asia. Mae'r wlad yn cynnwys nifer o ynysoedd. Mae wedi'i lleoli rhwng arfordir gogledd-ddwyreiniol Sawdi Arabia, a phenrhyn Catar: mewn geiriau eraill: saif rhwng Gwlff Persia a'r Dwyrain Canol. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Manama. Mae arwynebedd y wlad yn 295.37 mi sgwâr (765 km2); mewn cymhariaeth, mae arwynebedd Ynys Môn yn 276 milltir sgwâr (715 km2).
Canolbwynt a chanolfan weinyddol Bahrain yr ynysfor (archipelago) hon yw Ynys Bahrain ei hun: y fwyaf ohonynt. Mae Saudi Arabia 23 km (14 mill) i ffwrdd ohoni a gelwir y ffordd sy'n eu cysylltu yn 'Gob y Brenin Fahd', sy'n gymysgedd o gobiau a phontydd. Mae Penrhyn Qatar hefyd yn eitha agos - 50 km (31 mill) i'r de-ddwyrain, a gelwir y môr sy'n eu gwahanu yn Wlff Bahrain. 200 km (124 mill) i'r gogledd ar draws Gwlff Persia mae Iran.
Poblogaeth Teyrnas Bahrein yn 2010 oedd 1,234,567 gyda 666,172 ohonynt yn dramorwyr.[2] Mae arwynebedd y wlad yn 780 km2 sy'n ei gosod yn drydydd wlad lleiaf yn Asia, yn dilyn y Maldives a Singapôr.[3]

Remove ads
Protestiadau 2011
Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

