Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Remove ads

Blodeugerdd wedi'i golygu gan R. M. Jones yw Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1988. Y gyfrol oedd y cyntaf yng Nghyfres y Canrifoedd.

Ffeithiau sydyn Golygydd, Cyhoeddwr ...
Remove ads

Disgrifiad byr

Blodeugerdd sylweddol yw hon o gerddi a ddetholwyd gan R. M. Jones o'r 19g, sef un o'r cyfnodau mwyaf toreithiog ond dadleuol mewn barddoniaeth Gymraeg. Yn ei ddetholiad a'i ragymadrodd mae Jones yn ceisio gwrthdroi'r canfyddiad cyffredin mai cyfnod sâl mewn barddoniaeth oedd y ganrif honno: "Gwahoddiad i wledd yw'r gyfrol hon" meddai yn ei ragymadrodd;[1] cyfeirio yw at ragymadrodd Bedwyr Lewis Jones i'w ddetholiad (byrrach o lawer) ef Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg lle awgrymodd nad "gwahoddiad i wledd" oedd barddoniaeth y ganrif.[2]

Remove ads

Beirdd yn y gyfrol

Cynhwysir y beirdd canlynol o fewn y gyfrol, gyda'r nifer o gerddi unigol (neu ddetholiadau o gerdd fwy) mewn cromfachau:

Er bod y flodeugerdd hon yn hirach o lawer na'r eiddo Bedwyr Lewis Jones, mae'n hepgor nifer o feirdd adnabyddus o ddiwedd y ganrif e.e. Elfed, Pedrog, Ben Bowen a John Morris-Jones tra'n cynnwys llawer o feirdd llawer llai nodedig na'r rhain o gynharach yn y ganrif. Sonia R. M. Jones yn y rhagymadrodd ei fod wedi hepgor Morris-Jones oherwydd bod cerddi o'i eiddo ef wedi'u cynnwys yn Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd. Gellid tybio bod Pedrog a Ben Bowen wedi eu hepgor ar yr un egwyddor, ond mae gwaith Elfed (a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i farddoniaeth yn y 19g er iddo fyw'r rhan fwyaf o'i fywyd yn yr 20g) yn annisgwyl absennol o'r ddwy flodeugerdd hir, er cael ei gynnwys yng nghyfrol bychan Bedwyr Lewis Jones a Blodeugerdd Rhydychen, er eu bod yn ddetholiadau llai o'r cyfnod.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads