C.P.D. Machynlleth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sefydlwyd C.P.D. Machynlleth yn 1885. Mae wedi ei lleoli ym Machynlleth, Powys. Llysenw'r clwb yw'r Maglonians.
Mae'r clwb yn chwarae yng Ail Adran Cyngrair rhanbarth Spar Canolbarth Cymru (Spar Mid-Wales District League) [1] a'r tîm wrth-gefn (reserve) yng nghyngrair Cambrian Tyres Division 2 Amateur football league. Bu bron iddynt ddod i ben fel clwb yn 2005 oherwydd dyledion o oddeutu £1,000 a diffyg cefnogaeth dorfol i'r Clwb a llwyddiant chwarae y cae.[2]
Remove ads
Hanes
Sefydlwyd yn clwb yn 1885. Enillodd y clwb Cynghrair Spar Canolbarth Cymru dair tymor yn olynnol yn yr 1990au a Cwpan Her Canolbarth Cymru yn 1994.
Bu i'r clwb hefyd ennill Cwpan Amatur Cymru yn 1902 ac 1933.[2]
Yn anffodus, C.P.D. Machynlleth sy'n gyfrifol am ddal teitl buddugoliaeth fwyaf erioed C.P.D. Tref Aberystwyth; 21-0 yn 1934.
Maes Chwarae
Maent yn chwarae ar faes Cae Glas yn y dref.[3]
Cit
- Cartref - crys glas a gwyn stripiog fertigol; trwsus glas; sannau glas
- Oddi Cartref - crys gwyn; trwsus glas; sannau glas
Dolenni
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads