C.P.D. Tref Aberystwyth

From Wikipedia, the free encyclopedia

C.P.D. Tref Aberystwyth
Remove ads

Clwb pêl-droed o dref Aberystwyth, Ceredigion yw Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.

Ffeithiau sydyn Enw llawn, Llysenwau ...
Ffeithiau sydyn Rheolwr, Cynghrair ...
Ffeithiau sydyn Rheolwr, Cynghrair ...
Ffeithiau sydyn Sefydlwyd, Hyfforddwr ...
Thumb
Aberystwyth v Derwyddon Cefn ar Goedlan y Parc (2023)
Thumb
Coedlen y Parc, Maes Aberystwyth

Ffurfiwyd y clwb ym 1884[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, ym 1900, yn ogystal â chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym 1992.

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Goedlen y Parc, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dîm Merched, tîm anabl a gwahanol dimau ieuenctid.

Remove ads

Hanes Cynnar

Thumb
Aberystwyth yn erbyn C.P.D. Derwyddon Cefn yn 2023

Ffurfiwyd y clwb ym mis Hydref 1884 wedi i Arthur Hughes, mab i gyfreithiwr lleol, osod hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn am i chwaraewyr oedd eisiau ymuno â'r clwb newydd i gyfarfod yng Ngwesty'r Belle Vue, Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn 4 Hydref.[2]. Roedd Arthur a'i frodyr Jack a Hugh yn bêl-droedwyr o fri, ac roedd Jack eisoes wedi cynrychioli Cymru ddwywaith ym 1877 a 1879 tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Dechreuodd Aber chwarae yn y Welsh League ym 1896 ond dim ond am dymor, ond chwaraeodd y clwb yn rowndiau rhagbrofol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Cymru cyn ymuno â'r Combination League ym 1899-1900[3] a cafwyd llwyddiant mwyaf y clwb yn ystod yr un tymor wrth iddynt godi Cwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes wedi buddugoliaeth 3-0 dros y C.P.D. Derwyddon Cefn[4] yn Y Drenewydd.

Ar ôl gadael y Combination League, ymunodd Aber â Chynghrair Sir Drefaldwyn a'r Cylch ym 1904[5] gan ennill sawl pencampwriaeth cyn ymuno â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig (Adran y Canolbarth) ym 1921.

Llwyddodd Aber i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1931 a 1933.

Yn ystod tymor 2021/22 daeth Aberystwyth y clwb cyntaf yn hanes i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru[6].

Remove ads

Record yn Ewrop

Rhagor o wybodaeth Tymor, Cystadleuaeth ...

Anrhydeddau

  • Cwpan Cymru
    • Enillwyr: 1899-1900
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2008-09, 2013-14
  • Cwpan Amatur Cymru
    • Enillwyr: 1930-31, 1932-33, 1969-70
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1906-07, 1910-11, 1928-29, 1934-35, 1971-72

Recordiau'r clwb

Chwaraewyr nodedig

Remove ads

Tîm merched

Mae'r clwb hefyd yn cynnal C.P.D. Merched Tref Aberystwyth sy'n chwarae ar Goedlan y Parc ac sydd yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Bu'r tîm yn gyfrifol am chwarae y gêm gyntaf erioed yn yr hyn a ddaeth yn Uwch Gynghrair yn 2009.[7]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads