C. P. Snow

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Ffisegydd a llenor o Loegr oedd Charles Percy Snow, Barwn Snow o Ddinas Caerlŷr CBE (15 Hydref 1905 – 1 Gorffennaf 1980).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Mynychodd Prifysgol Caerlŷr ac enillodd doethuriaeth o Brifysgol Caergrawnt. Daeth yn gymrawd yng Ngholeg Crist, Caergrawnt yn 25 oed ac astudiodd ffiseg foleciwlaidd am ugain mlynedd cyn iddo gymryd swydd gweinyddwr y brifysgol. Yn y 1930au fe gychwynodd ar gyfres o 11 o nofelau o'r enw Strangers and Brothers (cyhoeddwyd 1940–70). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei benodi'n gynghorwr gwyddonol i'r llywodraeth. Priododd y nofelydd Pamela Hansford Johnson ym 1950. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1957 a'i wneud yn arglwydd am oes ym 1964.[1]

Manteisiodd Snow ar ei yrfa ddeuol drwy ysgrifennu llyfr ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a llenyddiaeth: The Two Cultures and the Scientific Revolution (1959). Dadleuodd bod y gwyddonydd a'r llenor yn gwybod bron dim am ddisgyblaeth y llall, ac felly mae cyfathrebu rhyngddynt yn anodd, os nad amhosib. Sbardunodd dadl ffyrnig ymhlith academyddion a deallusion Gwledydd Prydain, a daeth y beirniad llenyddol F. R. Leavis i flaen y gad i wrthwynebu gosodiad Snow. Ymhelaethodd Snow ar ei syniadau mewn llyfr dilynol, Second Look (1964).[2][3][4][5]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads