Caer
dinas yn Swydd Gaer, Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a chanolfan weinyddol (tref sirol) y sir yw Caer (Saesneg: Chester).[1] Mae hi ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn agos iawn i ffin Cymru. Mae'r ddinas yn cael ei alw'n Caerlleon neu Caerlleon Gawr, mewn rhai testunau Cymraeg.
- Mae'r erthygl yma am y ddinas yn Lloegr. Am ystyron eraill, gweler Caer (gwahaniaethu).
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caer boblogaeth o 86,011.[2]
Mae muriau'r ddinas ymysg y gorau ym Mhrydain a cheir nifer o dai hynafol o ddiwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid yng nghanol y ddinas. Ers blynyddoedd mae Caer yn enwog am ei chae rasys ceffylau, ar gyrion y dref.


Remove ads
Hanes
Mae'r ddinas wedi tyfu o gwmpas safle'r hen gaer Rufeinig Deva. Roedd hi'n ganolfan bwysig i lengfilwyr Rhufain, a dangosir hyn yn yr hen enw ar y dre - 'Caerllïon Fawr ar Ddyfrdwy' - a oedd yn gartref am gyfnod hir i'r lleng Legio XX Valeria Victrix. Mae rhai yn credu, oni bai am ddirywiad a chwymp yr ymerodraeth Rufeinig, y gallai Caer fynd yn brifddinas y Brydain Rufeinig ac yn ganolfan i'r Rhufeiniaid fentro dros y môr i Iwerddon.
Ar ôl ymadawiad byddinoedd Rhufain, mae'n debyg i Gaer ddod yn rhan o deyrnas Powys, ond roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn dod yn nes. Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 rhwng lluoedd y Brythoniaid a lluoedd Æthelfrith, brenin Deira (wedyn Northumbria). Aeth y fuddugoliaeth i'r Saeson, ac o hynny ymlaen hwy oedd yn oruchaf yn yr ardal.
Cipiwyd Caer gan y Normaniaid yn yr 11g a chreuwyd Iarllaeth Caer ganddynt, un o'r bwysicaf o arglwyddiaethau Normanaidd y Mers. Treuliodd Gruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, gyfnod o rai blynyddoedd mewn carchar yn y castell Normanaidd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaer ar ddiwedd ei daith trwy Gymru yn 1188.
Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol bu Caer yn ganolfan filwrol i'r Saeson yn eu hymosodiadau ar Gymru. Roedd gan y dref hanes hir o wrthgymreictod.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Grosvenor
- Castell
- Eglwys gadeiriol
- Neuadd y dref
- Tafarn y Falcon
Enwogion
- Syr Adrian Boult (1889–1983), cerddor
- Randolph Caldecott (1846–86), arlunydd
- Leonard Cheshire (1917–1992), arwr rhyfel
- Hugh Lloyd (1923-2008), actor
- Russ Abbot (g. 1947), comediwr
- Steven Cousins (g. 1972), sglefriwr
- Helen Willetts (g. 1972), cyflwynydd y tywydd
Galeri
- Afon Dyfrdwy yng Nghaer
- Y Castell
- Stryd Northgate
- Y Gamlas
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
