Sw Caer
gardd swolegol yn Upton-by-Caer, yn Swydd Gaer From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sw neu ardd swolegol a leolir ger dinas Caer yn Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Sw Caer (Saesneg: Chester Zoo). Fe'i agorwyd yn 1931 gan George Mottershead a'i deulu, gan ddefnyddio fel ei fan cychwyn anifeiliaid o sw arall yn Shavington. Mae'n un o'r sŵau mwyaf yng ngwledydd Prydain gyda 111 acer (0.45 km²) o dir ar gyfer y sŵ ei hun a chyfanswm o 400 acer (1.6 km²) o dir i gyd.




Mae Sw Caer yn cael ei redeg gan Gymdeithas Swolegol Gogledd Lloegr, elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 1934. Dyma brif atyniad bywyd gwyllt Prydain yn 2007, gyda dros 1.3 miliwn o ymwelwyr. Yn yr un flwyddyn cafodd ei enwi gan Forbes fel un o'r pymtheg sŵau gorau yn y byd. Mae'n denu llawer o ymwelwyr o Ogledd Cymru.
Crewyd gwarchodfa natur to mewn i’r sw i warchod bywyd gwyllt cynhenid Prydain.[1]
Mae sawl ynys tu mewn y sw sy’n dangos bywyd gwyllt yr ynysoedd Panay, Papua Gini Newydd, Bali, Sumatra, Sumba a Sulawesi. Dangosir bywyd gwyllt Madagasgar hefyd.[2]
Mae gan y sw Reilffordd ungledrog.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

