Caerliwelydd
dinas yn Cumbria, Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle,[1] Lladin Luguvalium). Saif yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16 km o'r ffin a'r Alban. Roedd gynt yn dref sirol hanesyddol Cumberland, ac yn awr mae'n gartref i bencadlys awdurdod unedol Cumberland.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Caerliwelydd boblogaeth o 77,728.[2]
Remove ads
Hanes
Mae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai Caerliwelydd oedd prifddinas Valentia, talaith Rufeinig o fewn Britannia a sefydlwyd yn 369, ond ni ellir profi hynny.
Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin).
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Tŷ Tullie
- Castell Caerliwelydd
- Eglwys gadeiriol
Enwogion
- Margaret Forster (g. 1938), awdures
- Melvyn Bragg (g. 1939), cyflwynwr ac awdur
- Mike Figgis (g. 1948), cyfarwyddwr ffilm
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads