Charles Darwin

naturiaethwr a biolegydd o Loegr (1809-1882) From Wikipedia, the free encyclopedia

Charles Darwin
Remove ads

Naturiaethwr o Loegr oedd Charles Robert Darwin, F.R.S. (12 Chwefror 180919 Ebrill 1882). Chwyldrôdd yr astudiaeth o hanes natur a'r cysyniad traddodiadol am natur a hanes y ddynolryw a gosododd y seiliau i ddamcaniaeth esblygiad a hefyd cynigiodd yr egwyddor o darddiad cyffredin fel canlyniad i ddetholiad naturiol. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth i'r byd ym 1858 yn y Linnaean Society ar y cyd ag Alfred Russel Wallace ac i'r cyhoedd wedyn yn ei lyfr The Origin of Species, a gyhoeddwyd yn 1859; gwaith enwocaf Charles Darwin.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Yn Awst 1831, astudiodd greigiau Eglwyseg ger Llangollen ac yna ymweliad â Phen y Gogarth yn Llandudno, cyn mynd ymlaen i Gwm Idwal yn Eryri lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.[1][2] Ar ei daith ddaearegol olaf i Gymru, ym 1842, fe ymwelodd â Moel Tryfan ym mhlwyf Llanwnda, lle roedd olion o waddodiad morol wedi eu darganfod ar ffurf cregin; er na chafodd hyd i fwy o'r rhain, fe ddaeth at rai casgliadau ynglŷn â ffurfiant y gwythiennau llechfaen yn yr ardal, sydd ar ongl anarferol.[3]

Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd HMS Beagle ac roedd ei arsylliadau ar Ynysoedd y Galapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.

Remove ads

Teithio ar y Beagle

Yn ystod ei deithiau ar y Beagle astudiodd Darwin daeareg cyfandiroedd ac ynysoedd yn ogystal â nifer o anifeiliaid, planhigion a ffosiliau. Mewn ffordd drefnus iawn, casglodd nifer enfawr o enghreifftiau nad oedd neb wedi eu hastudio o'r blaen. Rhoddodd y casgliad pwysig yr oedd wedi ei gasglu i'r Amgueddfa Brydeinig. Roedd Darwin yn un o arloeswyr ecoleg.

Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor Cape Verde, i Ynysoedd Falkland (Malvinas), i lannau môr De America, Ynysoedd y Galapagos, Seland Newydd ac Awstralia. Daeth yn ôl adref ar 2 Hydref, 1836, ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am grwbanod ac adar Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.

Yng ngwanwyn 1837 hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai llinos oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd Thomas Malthus ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym 1798 arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.

Thumb
Cwm Idwal: man allweddol yn natblygiad syniadaeth Darwin o esblygiad

Cyhoeddwyd llyfr am ei ddamcaniaeth, Notebook on the Transmutation of Species, sydd yn cytuno â Principles of Geology gan Syr Charles Lyell ac Essay on the Principle of Population gan Thomas Malthus sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn tueddu i gyfyngu poblogaeth i un ardal neilltuol. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion ar golomennod a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyr moch i gryfhau ei ddamcaniaeth.

Remove ads

Astudiaethau

  • R. Elwyn Hughes, Darwin, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads