ChatGPT
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae ChatGPT (Trawsnewidydd Cyn-hyfforddedig Cynhyrchiol Sgyrsiol) yn sgwrsfot a ddatblygwyd gan OpenAI ac a lansiwyd ar 30 Tachwedd 2022. Yn seiliedig ar fodel iaith mawr, mae'n galluogi defnyddwyr i fireinio a llywio sgwrs yn unol â'r hyd, fformat, arddull, lefel manylder ac iaith a ddymunir. Ystyrir ysgogiadau ac atebion olynol er mwyn strwythuro'r testun mewn ffordd y gellir ei ddehongli a'i ddeall gan fodel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol (peirianneg ysgogiadau), ym mhob cam o'r sgwrs fel cyd-destun.[1]
Erbyn Ionawr 2023, dyma oedd y feddalwedd defnyddwyr a dyfodd gyflymaf erioed, gyda dros 100 miliwn o ddefnyddwyr yn cyfrannu at dwf ym mhrisiad OpenAI i $29 biliwn.[2][3] Arweiniodd dyfodiad ChatGPT at ddatblygu cynhyrchion tebyg, fel Bard, Ernie Bot, LLaMA, Claude, a Grok.[4] Lansiodd Microsoft feddalwedd Copilot, yn seiliedig ar GPT-4 gan OpenAI. Mynegodd rai arsylwyr bryder am botensial ChatGPT a rhaglenni tebyg i ddadleoli neu wanhau deallusrwydd dynol, galluogi llên-ladrad, neu ledu camwybodaeth.[5][6]
ChatGPT sy'n cael y clod am gychwyn y cyfnod presennol o ddatblygiad cyflym a digynsail ym maes deallusrwydd artiffisial.[7]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads