OpenAI

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mae OpenAI yn sefydliad ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) o'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yn Rhagfyr 2015, gyda'r bwriad o ddatblygu deallusrwydd cyffredinol artiffisial "diogel a buddiol", y mae'n ei ddiffinio fel "systemau ymreolaethol iawn sy'n perfformio'n well na bodau dynol yn y gwaith mwyaf gwerthfawr yn economaidd.[1] Fel un o brif sefydliadau'r AI Spring,[2][3][4] mae wedi datblygu sawl model iaith mawr, modelau cynhyrchu delweddau, ac yn flaenorol, modelau ffynhonnell agored hefyd.[5][6] Mae rhyddhau ChatGPT wedi cael y clod am ddechrau'r hyn a elwir yn 'wanwyn' neu 'chwyldro' deallusrwydd artiffisial. [7]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Mae'r sefydliad yn cynnwys yr OpenAI, Inc.[8] sef sefydliad dielw sydd wedi'i gofrestru yn Delaware a'i is- gwmni er-elw OpenAI Global, LLC.[9]

Fe’i sefydlwyd gan Ilya Sutskever, Greg Brockman, Trevor Blackwell, Vicki Cheung, Andrej Karpathy, Durk Kingma, Jessica Livingston, John Schulman, Pamela Vagata, a Wojciech Zaremba, gyda Sam Altman ac Elon Musk.[10][11] Darparodd Microsoft $1 biliwn i OpenAI Global LLC a $10 biliwn pellach yn 2019 [12][13] gyda chyfran sylweddol o'r buddsoddiad ar ffurf adnoddau cyfrifiadurol ar wasanaeth cwmwl Azure Microsoft.[14]

Ar 17 Tachwedd 2023, fe ddiswyddodd y bwrdd Altman fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO), tra diswyddwyd Brockman fel cadeirydd ac yna ymddiswyddodd fel arlywydd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dychwelodd y ddau ar ôl trafodaethau gyda'r bwrdd, ac ymddiswyddodd y rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd. Roedd y bwrdd cychwynnol newydd yn cynnwys cyn-Brif Swyddog Gweithredol Salesforce, Bret Taylor fel cadeirydd[15] a chafodd Microsoft sedd di-bleidlais.[16]

Remove ads

Hanes

Yn ôl ymchwiliad dan arweiniad TechCrunch, Elon Musk oedd y rhoddwr ariannol mwyaf tra na chyfranodd YC Research yr un geiniog goch.[17] Dywedodd y sefydliad y byddai'n "cydweithio'n rhydd" gyda sefydliadau ac ymchwilwyr eraill trwy wneud ei batentau a'i ymchwil yn agored i'r cyhoedd.[18][19] Ers ei sefydlu, mae pencadlys OpenAI yn Adeilad Pioneer yn Mission District, San Francisco.[20][21]

Yn Ebrill 2016, rhyddhaodd OpenAI fersiwn beta (arbrofol) o "OpenAI Gym", ei lwyfan ar gyfer ymchwil dysgu ac addysgu.[22] Rhoddodd Nvidia ei uwchgyfrifiadur DGX-1 cyntaf i OpenAI yn Awst 2016 i'w helpu i hyfforddi modelau AI mwy a mwy cymhleth gyda'r gallu i leihau'r amser prosesu o chwe diwrnod i ddwy awr.[23][24] Yn Rhagfyr 2016, rhyddhawyd OpenAI "Universe", llwyfan meddalwedd ar gyfer mesur a hyfforddi deallusrwydd cyffredinol AI ar draws cyflenwad o gemau, gwefannau a chymwysiadau bydeang eraill.[25][26][27]

Yn 2017 gwariodd OpenAI $7.9 miliwn, neu chwarter ei dreuliau swyddogaethol, ar gyfrifiadura cwmwl yn unig.[28] Mewn cymhariaeth, cyfanswm treuliau DeepMind yn 2017 oedd $442 miliwn. Yn ystod haf 2018, roedd hyfforddi bots Dota 2 OpenAI yn unig yn golygu rhentu 128,000 CPU a 256 GPU gan Google am wythnosau di-ben-draw.

Yn 2018, ymddiswyddodd Musk o'i sedd ar y bwrdd, gan nodi " gwrthdaro [buddiant] posibl yn y dyfodol" oherwydd ei rôl arall, fel Prif Swyddog Gweithredol Tesla a oedd yn brysur ddatblygu AI Tesla ar gyfer ceir hunan-yrru.[29] Mae Sam Altman yn honni bod Musk yn credu bod OpenAI wedi cwympo y tu ôl i chwaraewyr eraill fel Google a chynigiodd Musk yn lle hynny gymryd drosodd OpenAI ei hun, rhywbeth a wrthodwyd gan y bwrdd. Gadawodd Musk OpenAI wedi hynny ond honnodd ei fod yn parhau i fod yn rhoddwr, ond ni wnaeth unrhyw roddion ar ôl iddo adael, hyd y gwyddus.[30]

Yn Chwefror 2019, cyhoeddwyd GPT-2, a gafodd lawer o sylw am ei allu i gynhyrchu testun tebyg i ddyn.[31]

Yn 2019, trosglwyddodd OpenAI o fod yn gorff dielw (nid-am-elw) i 'gapio'r elw' ar luoswm o 100 gwaith unrhyw fuddsoddiad.[32] Yn ôl OpenAI, mae'r model 'capio'r elw' hwn yn caniatáu i OpenAI Global LLC ddenu buddsoddiad yn gyfreithlon o gronfeydd menter a rhoi arian i weithwyr y cwmni. Mae llawer o'r ymchwilwyr gorau'n gweithio i Google Brain, DeepMind, neu Facebook, sy'n cynnig opsiynau stoc na fyddai cwmni dielw yn gallu eu gwneud.[33] Cyn y cyfnod pontio, roedd yn gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ddatgelu symiau iawndal y gweithwyr pwysicaf yn OpenAI.[34]

Yna dosbarthodd y cwmni ecwiti i'w weithwyr a ffurfio partneriaeth â Microsoft,[35] a wnaeth fbuddsoddi o $1 biliwn i'r OpenAI. Ers hynny, mae systemau OpenAI wedi rhedeg ar lwyfan uwchgyfrifiadura Azure gan Microsoft.[36][37][38]

2020-2023: partneriaeth rhwng ChatGPT, DALL-E â Microsoft

Yn 2020, cyhoeddodd OpenAI GPT-3, model iaith sydd wedi’i hyfforddi ar setiau mawr o ddata o'r rhyngrwyd. Mae GPT-3 wedi'i anelu at iaith naturiol sy'n ateb cwestiynau, ond gall hefyd gyfieithu rhwng ieithoedd a chynhyrchu testun byrfyfyr yn gydlynol. Cyhoeddodd hefyd y byddai API cysylltiedig, a enwir yn syml "yr API", yn ffurfio calon ei gynnyrch masnachol cyntaf.[39]

Yn 2021, cyflwynodd OpenAI DALL-E, model dysgu dwfn arbenigol a all gynhyrchu delweddau digidol cymhleth o ddisgrifiadau testunol, gan ddefnyddio amrywiad o bensaernïaeth GPT-3.[40]

Yn Rhagfyr 2022, derbyniodd OpenAI sylw eang yn y cyfryngau ar ôl lansio rhagolwg rhad ac am ddim o ChatGPT, ei chatbot AI newydd yn seiliedig ar GPT-3.5. Yn ôl OpenAI, cofrestriadau o fewn y pum diwrnod dros filiwn y diwrnod cyntaf.[41] Yn ôl ffynonellau dienw a ddyfynnwyd gan Reuters yn Rhagfyr 2022, roedd OpenAI Global LLC yn rhagamcanu $200 miliwn o refeniw yn 2023 a $1 biliwn mewn refeniw yn 2024.[42]

Thumb
Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol OpenAI, Sam Altman
Thumb
Cyd-sylfaenydd a Llywydd OpenAI, Greg Brockman

Yn Ionawr 2023, roedd OpenAI Global LLC mewn trafodaethau am gyllid a fyddai'n codi gwerth y cwmni OpneAI Global LLC i $29 biliwn, dwbl ei werth 2021.[43] Ar 23 Ionawr 2023 cyhoeddodd Microsoft fuddsoddiad aml-flwyddyn o US$ 10 biliwn newydd yn OpenAI Global LLC.[44][45] Roedd sibrydion am y fargen hon yn awgrymu y gallai Microsoft dderbyn 75% o elw OpenAI nes iddo sicrhau ei enillion buddsoddi a chyfran o 49% yn y cwmni.[46] Cyhoeddodd Google ap AI tebyg (sef Bard), ar ôl i ChatGPT gael ei lansio, gan ofni y gallai ChatGPT fygwth lle Google fel ffynhonnell wybodaeth.[47][48]

Ar 7 Chwefror 2023, cyhoeddodd Microsoft ei fod yn adeiladu technoleg AI yn seiliedig ar yr un sylfaen â ChatGPT i mewn i Microsoft Bing, Edge, Microsoft 365 a chynhyrchion eraill. [49]

Ar 14 Mawrth 2023, rhyddhaodd OpenAI GPT-4, fel API (gyda rhestr aros) ac fel nodwedd o ChatGPT Plus.[50]

Ar 22 Mai 2023, postiodd Sam Altman, Greg Brockman ac Ilya Sutskever argymhellion ar gyfer llywodraethu deallusrwydd-uwch (superintelligence).[51] Dyma'r math o ddeallusrwydd artiffisial a ddisgrifir yn y nofel Gymraeg Y Dydd Olaf yn 1967-8 gan Owain Owain. Maen nhw'n ystyried y gallai deallusrwydd-uwch ddigwydd o fewn y 10 mlynedd nesaf, gan ganiatáu "dyfodol mwy llewyrchus, dramatig" ac "o ystyried y posibilrwydd o risg dirfodol, ni allwn fod yn adweithiol yn unig". Dywedodd y grwp fod angen creu corff gwarchod rhyngwladol (international watchdog) tebyg i IAEA i oruchwylio systemau AI uwchlaw trothwy gallu penodol, gan awgrymu na ddylai systemau AI cymharol wan ar yr ochr arall gael eu rheoleiddio'n ormodol. Maen nhw hefyd yn galw am fwy o ymchwil diogelwch technegol ar gyfer dealltwriaeth-uwch, ac yn gofyn am fwy o gydlynu, er enghraifft trwy lywodraethau'n lansio prosiect ar y cyd fel bod "llawer o'r ymdrechion cyfredol yn dod yn rhan ohono".[51][52]

Remove ads

Cymhellion

Mae rhai gwyddonwyr, fel Stephen Hawking a Stuart Russell, wedi mynegi pryderon, pe bai AI datblygedig (deallusrwydd-uwch) rywbryd yn ennill y gallu i ail-ddylunio ei hun ar gyfradd gynyddol, y gallai arwain at ddifodiant dynoliaeth. Dyma hefyd oedd byrdwn y nofel Y Dydd Olaf, yn ogystal a sut i wrthwynebu'r cyflyru, y dad-ddynoli a'r difodiant. Mae’r cyd-sylfaenydd Musk yn nodweddu AI fel “bygythiad dirfodol mwyaf” dynoliaeth.[53]

Mae Musk ac Altman wedi datgan eu bod yn cael eu cymell yn rhannol gan bryderon am ddiogelwch AI a'r risg dirfodol o ddeallusrwydd cyffredinol artiffisial.[54] Dywed OpenAI ei bod yn “anodd dirnad faint o AI ar lefel ddynol a allai fod o fudd i gymdeithas,” a’i bod yr un mor anodd deall “faint a allai niweidio cymdeithas pe bai’n cael ei adeiladu ar ei liwt ei hun, neu ei ddefnyddio’n anghywir”.[55] Ni ellir gohirio ymchwil ar ddiogelwch yn ddiogel: "oherwydd hanes rhyfeddol AI, mae'n anodd rhagweld pryd y gallai AI ar lefel ddynol ddod o fewn cyrraedd."[56] Dywed OpenAI y dylai AI "fod yn estyniad o ewyllys dyn ar lefel unigol ac, yn ysbryd rhyddid, wedi'i ddosbarthu mor eang ac mor gyfartal â phosib."Mae'r cyd-gadeirydd Sam Altman yn disgwyl i'r prosiect degawdau o hyd ragori ar ddeallusrwydd dynol.

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads