Clive Swift

cyfansoddwr a aned yn 1936 From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Actor a chyfansoddwr caneuon o Loegr oedd Clive Walter Swift (9 Chwefror 19361 Chwefror 2019). Roedd yn adnabyddus am ei rôl fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth (a chwaraewyd gan Patricia Routledge) yn y gyfres deledu Prydeinig Keeping Up Appearances, ond chwaraeodd lawer o rannau ffilm-a-theledu nodedig eraill, gan gynnwys Roy yn y gyfres deledu The Old Guys.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywyd a gyrfa

Ganwyd Swift yn Lerpwl, yn fab i Lily Rebecca (née Greenman) ac Abram Sampson Swift.[1] Roedd ei frawd hynaf, David, hefyd yn actor. Cafodd y ddau eu haddysgu yng Ngholeg Clifton a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn LAMDA a'r Royal Academi of Dramatic Art. Roedd ei deulu yn Iddewig.[2]

Ymddangosodd fel Snug yng nghynhyrchiad ffilm Cwmni Shakespeare Frenhinol o A Midsummer Night's Dream yn 1968 fel rhan o cast a oedd yn cynnwys Diana Rigg, Helen Mirren ac Ian Richardson. Yn y 1970au, ymddangosodd fel Doctor Black mewn dwy o addasiadau'r BBC o storiau M.R. James, sef The Stalls of Barchester ac A Warning to the Curious. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl ar Keeping Up Appearances fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth. Serenodd Swift yn addasiad y BBC o The Barchester Chronicles ac ymddangosodd yn stori Doctor Who, Revelation of the Daleks. Ar 25 Rhagfyr 2007, ymddangosodd yn rhifyn arbennig Nadolig Doctor Who fel Mr Copper. Bu hefyd yn chwarae Sir Ector, tad mabwysiadol Brenin Arthur yn y ffilm Excalibur gan John Boorman yn 1981.

Yn ogystal ag actio, roedd yn gyfansoddwr caneuon. Ymddangosodd llawer o'i ganeuon yn ei sioe, Richard Bucket Overflows: An Audience with Clive Swift, a deithiodd wledydd Prydain yn 2007 a Clive Swift Entertains, lle berfformiodd ei gerddoriaeth a'i geiriau ei hun, a deithiodd wledydd Prydain yn 2009. Bu hefyd yn chwarae rhan y Parchedig Eustacius Brewer yn Born a Bred, a ddarlledwyd ar BBC 1 o 2002 i 2005.[3]

Remove ads

Bywyd personol a marwolaeth

Roedd Swift yn briod â'r nofelydd Margaret Drabble o 1960 hyd eu ysgariad ym 1975.[4] Roedd yn dad i un ferch, Rebecca (a fu farw ym mis Ebrill 2017), a oedd yn adnabyddus am redeg The Literary Consultancy in London, a dau fab, Adam Swift, academydd, a Joe Swift, dylunydd gardd, newyddiadurwr a chyflwynydd teledu.[5]

Bu farw Swift ar 1 Chwefror 2019, yn ei gartref yn 82 oed.[6] Treuliodd ei ddyddiau olaf gyda'i deulu[7] yn dilyn arhosiad byr yn Ysbyty St Mary's, Llundain lle cafodd ei drin am salwch byr.

Remove ads

Ffilmyddiaeth

Ffilm

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...

Teledu

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...

Radio

  • Oblomov fel y Doctor
  • The Right Time
  • From Fact to Fiction – The Orchard fel yr Adrodddwr
  • Measure for Measure fel Escalus
  • Jorrocks's Jaunts and Jollities fel Nash
  • The Price of Fear – Remains to be Seen fel Fred Treiber

Llwyfan

  • Cymbeline (1962) fel Cloten
  • The Physicists (1963) fel Inspector Richard Voss (Aldwych Theatre)
  • The Tempest (1966) fel Caliban (Prospect Theatre Company)[29]

Arall

  • Fel Cyril (brawd yng nghyfraith Beatie yn Awstralia) mewn hysbyseb teledu ar gyfer British Telecom (1989) [30]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads